Y Blaid yn agor enwebiadau am yr arweinyddiaeth

Jan 02, 2012, 03:19 PM

Bydd enwebiadau yn agor yn swyddogol heddiw ar gyfer etholiad arweinydd newydd Plaid Cymru - The Party of Wales. Mae Plaid Cymru yn dechrau’r Flwyddyn Newydd ac yn lawnsio etholiad yr arweinyddiaeth gyda gêm bel-droed i godi arian yng Nghaerdydd, lle bydd yr aelodau, staff a chefnogwyr, gan gynnwys yr AS Jonathan Edwards, yn chwarae.

O heddiw ymlaen, gall ACau'r Blaid roi eu henwau gerbron yn swyddogol i fod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru. Bydd y cyfnod enwebu yn cau am hanner nos ar 26 Ionawr 2012. Yn wahanol i bleidiau eraill, etholir Arweinydd Plaid Cymru trwy Un aelod – un bleidlais, gan roi llais cyfartal i bob aelod ar lawr gwlad wrth ddewis arweinydd yr unig Blaid Genedlaethol yng Nhymru.