Dolphin Final Mix 4M ===
[00:00:00] Rosie: Mae Wild Tales yn cael ei noddi gan Cotswold Outdoor. Pan rydyn ni allan yng nghanol yr elfennau, rydyn ni yn ein helfen. Ac mae’r arbenigwr manwerthu awyr agored Cotswold Outdoor yn helpu mwy ohonom i fynd y tu allan efo’r dillad a’r offer cywir. Diolch hefyd i gefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n helpu cymunedau sy’n cerdded i gael mynediad at ofodau y tu allan yn y DU.
[00:00:22] Ac rydyn ni’n gweithio er mwyn atgyweirio 15,000km o lwybrau cerdded a llwybrau eraill erbyn 2030, er mwyn i bawb eu mwynhau. Beth am ddod o hyd i’ch elfen gyda Cotswold?
[00:00:40] Katrin: OK. 1, 2, 3. pedwar ar y bwa.
[00:00:46] Maen nhw’n anifeiliaid cymhleth iawn ac mae’r ffaith nad ydyn nhw ddim ond yn anifeiliaid hyfryd, hapus yn fwy diddorol - a dydych chi byth, dydych chi byth yn cael yr un math o gyfarfyddiad ddwywaith, bob tro rydych chi’n mynd allan, mi allwch chi weld rhywbeth sydd ychydig yn wahanol.
[00:01:08] Rosie: Helô, fi yw’r Ceidwad Rosie Holdsworth a heddiw rydyn ni’n datgelu teyrnas gudd o dan y tonnau yng ngorllewin Cymru. Cymdeithas sy’n seiliedig ar berthnasoedd a chyfathrebu sydd hefyd yn gallu bod yn allweddol i oroesiad rhai ifanc. Dyma Hanes Gwyllt Rhwydweithiau Cymdeithasol Dolffiniaid.
[00:01:33] Mae’n gynnar yn y bore ym Mae Ceredigion. Mae’r haul newydd ddechrau sbecian dros y bryniau, gan droi’r cymylau’n lliw pinc candi-fflos. Er gwaetha’r tonnau bygythiol ymhellach draw, does prin ddim crychau ar y dŵr yn y bae. Ar ddiwedd pier crwm, mae grŵp sydd wedi’u lapio mewn blancedi ac yn cydio mewn mygiau o goffi yn dringo ar fwrdd catamarán bach gwyn gyda’r enw ‘Dreamcatcher’ yn cael ei arddangos ar yr ochr.
[00:02:02] Maen nhw’n rhan o griw Sea Watch, elusen sy’n olrhain mamaliaid morol mewn ardal lle mae un o’r ddwy boblogaeth lled-breswyl o un o’r creaduriaid sy’n cael eu caru a’u camddeall fwyaf: y dolffin trwynbwl.
[00:02:19] Mae dolffiniaid trwynbwl yn enwog am bob math o ymddygiadau cymdeithasol sydd prin wedi cael eu hadnabod yn nheyrnas yr anifeiliaid, megis galar, rhyw er mwyn pleser, a grwpiau cymdeithasol sy’n newid yn barhaus. Yn wahanol i forfilod eraill - morfilod yw’r enw sy’n cael ei roi ar forfilod a dolffiniaid - mae cymdeithasau o ddolffiniaid trwynbwl yn seiliedig ar berthnasoedd unigol.
[00:02:43] Mae podiau’n cael eu defnyddio fwyaf ar gyfer bwydo, hwyl ac yn rhannau eraill o’r byd, fel amddiffyniad rhag siarcod. Ond yn nyfroedd y DU, lle gwelwn mai’r unig gwir fygythiad i ddolffin yw’r hyn sy’n cael ei greu gan ddyn, pam mae podiau’n parhau i gael eu gweld yn gyffredin? Sut mae’r rhwydweithiau cymdeithasol yma yn cael eu creu, a pham maen nhw mor hanfodol ar gyfer dolffiniaid ifanc?
[00:03:06] Mae’n ddiwedd hydref, sy’n golygu ein bod ar ddiwedd y tymor geni, ac mae ymchwilwyr Sea Watch yn cychwyn tuag at y tonnau bygythiol yr olwg yna i geisio olrhain y creaduriaid cymhleth yma.
[00:03:17] Katrin: Ym, fel arfer fi sy’n arwain yr arolygon, felly fi yw’r swyddog monitro. Mae gennym ni Claire, sef ein hymchwilydd cynorthwyol, ac yna mae gennym ni dîm o interniaid.
[00:03:25] Rosie: Dyma Katrin Lohrengol, sydd wedi bod yn arwain yr arolygon dolffiniaid yma am y degawd diwethaf. Heddiw, mae Katrin yn edrych fel pe bai hi’n fwy na pharod, ac mae wedi dod â’i chlipfyrddau, camera enfawr ... Ac wrth gwrs, haenau lawer o ddillad cynnes.
[00:03:38] Katrin: Ym, tra rydyn ni allan ar arolwg, bydd gennym ni ddau grŵp o arsylwyr. Felly dau prif arsylwr ar ben, ar ben y cwch.
[00a;03:49] Rydyn ni’n mynd i fod yn edrych am unrhyw famaliaid morol, dolffiniaid trwynbwl, llamhidydd yr harbwr, ac unrhyw beth arall y gallen ni fod yn ei weld. Yna os ydyn ni’n gweld dolffiniaid, fel arfer rydyn ni’n stopio’r cwch a byddwn yn mynd tuag atyn nhw a cheisio cymryd ffotograffau adnabod. Felly fe wnawn ni roi cynnig ar gymryd ffotograff o esgyll y cefn, ac rydyn ni’n defnyddio’r rhain i adnabod dolffiniaid unigol.
[00:04:05] Rosie: Mae’r arolwg hwn heddiw yn un pwysig. Wrth i’r tymor ddirwyn i ben a dyddiau’r hydref ddechrau oeri, ac wrth i’r tywydd ddod yn fwy anwadal o ganlyniad i’n hinsawdd bron â chyrraedd trobwynt, mae’r amgylchiadau lle y gall arolygon gael eu cynnal yn dod yn gynyddol yn fwy prin. Mae’r gwaith ymchwil mae Katrin a'i thîm yn ei wneud yw ein hunig ffenest i mewn i fyd dolffiniaid Bae Ceredigion.
[00:04:26] Unwaith, roedd yna ddolffiniaid trwynbwl ym mhob moryd yn y DU. Ond mae gor-bysgota, traffig cychod, a dyfroedd sy’n cynhesu wedi arwain at ond dwy boblogaeth o ddolffiniaid trwynbwl lled-breswyl. Mae gwaith Sea Watch yn hanfodol. Mae wedi arwain at Fae Ceredigion yn dod yn ardal gadwraeth arbennig. Rhywle lle y gall dolffiniaid trwynbwl ffynnu.
[00:04:47] Ond mae monitro dolffiniaid yn beth caled. Un o’r rhesymau mae’r rhwydweithiau cymdeithasol yma yn parhau i fod yn ddirgelwch i ni fwy neu lai yw bod llawer o hyn yn digwydd o dan y dŵr. Ac mae’r dolffiniaid yn teithio cannoedd o filltiroedd yn y môr agored bob blwyddyn. Mae Katrin a’i thîm yn Sea Watch yn cael cynnig cipolwg bychan ar eu bywydau pan maen nhw’n taro arnyn nhw ar yr wyneb yn unig.
[00:05:12] Ond cyn y gall Katrin ddweud wrthym sut maen nhw’n gallu rhoi’r cyfnodau yma y maent yn cael eu gweld i gysylltu’r dotiau rhwng y dolffiniaid, yn sydyn mae’r cwch yn ferw gwyllt.
[00:05:22] Charlie: Katrin, dw i newydd eu gweld nhw draw yn fan’na, y tu ôl i ni.
[00:05:26] Jasmine: Rydyn ni’n gweld pod o ddolffiniaid trwynbwl, ym, tua 15 fwy na thebyg. Ym, maen nhw’n aros o gwmpas wrth y cwch, yn dangos eu hunain eithaf tipyn.
[00:05:34] Rydw i newydd ei gael arnaf i.
[00:05:40] Rosie: Dyma Jasmine, un o’r interniaid sydd ar fwrdd y cwch, sydd newydd gael trochfa wrth i gynffon dolffin trwynbwl ddiflannu. Mae Jasmine newydd orffen ei gradd Meistr ac yn awyddus i gymryd ei chamau cyntaf i mewn i fyd cadwraeth. Mae’r interniaid eraill mewn sefyllfa debyg, yn ceisio penderfynu beth maen nhw am ei wneud nesaf, ennill profiad ac, ac yn ôl y teimlad sydd ar fwrdd y cwch, maen nhw hefyd yn ffurfio grŵp cymdeithasol eu hunain.
[00:06:04] Jasmine: Ym, mi faswn i’n deud bod hyn yn debyg iawn i pan maen nhw’n dod i’r wyneb yn aml. Rydym ni wedi gweld llawer o slapio cynffonau yn erbyn y dŵr. Ac wedyn rydyn ni hefyd wedi gweld rhai’n neidio. Yn codi allan o’r dŵr ac yn symud ochr yn ochr â rhai eraill. Dwi’n meddwl eu bod nhw hefyd jest yn cymdeithasu gyda'i gilydd yn ogystal â nofio hefo’i gilydd. Ia, dyna ni slap cynffon fach neis arall yn fan’na.
[00:06:25] Rosie: Mae’r dolffiniaid yn nofio ar ôl y cwch yn chwareus wrth ei ochr, yn neidio drwy’r dŵr. Gwe gymhleth o slapiau, rolio a boliau’n hedfan drwy’r awyr.
[00:06:41] Jasmine: Mae’n beth mor dda, pan rydych chi’n eu gweld nhw am y tro cyntaf, ond dydych chi byth yn syrffedu eu gweld chwaith.
[00:06:47] Rosie: Wrth i’r dolffiniaid trwynbwl ddiflannu o dan y tonnau, mae Katrin, sydd wedi bod yn sefyll yna efo camera, yn neidio o amgylch y cwch yn feistrolgar er mwyn cael yr ongl orau, mae’n cael cyfle i gael hoe fach a dweud wrthym ni beth sy’n hanfodol i gymdeithas o ddolffiniaid.
[00:07:01] Katrin: Mae dolffiniaid trwynbwl yn byw efo’r hyn sy’n cael ei alw’n gymdeithas ‘fission-fusion’, lle mae’r grŵp cymdeithasol yn newid o ran maint a chyfansoddiad hefo amser, a dyw e ddim fel, er enghraifft, yr hyn ‘dan ni’n ei weld gyda’r morfilod danheddog, sy’n uniaethu gyda llinach y fam (’matrilinear’). Mae’r cysylltiadau rydyn ni’n ei weld yn aml yn llawer llai cryf, ac yn llawer llai hirdymor, gydag eithriadau.
[00:07:18] Gyda chymdeithasau ‘fission-fusion’, yr hyn rydyn ni’n ei weld yw gwahanol anifeiliaid yn dod ynghyd, yn dibynnu ar ba ymddygiadau sydd ganddynt. Felly, er enghraifft, fe fyddant yn ffurfio grŵp mawr pan maent yn bwydo ac yna'n rhannu unwaith eto. Ond wedyn dros y blynyddoedd, fe fyddant yn ffurfio cysylltiadau mwy sefydlog. Rydyn ni wedi gweld rhai gwrywod yn aml iawn dros y blynyddoedd.
[00:07:36] Mae dau o’r gwrywod, Dumbledore a Frodo, rydyn ni’n eu gweld nhw gyda’i gilydd yn aml, maen nhw’n dueddol o fod yn eithaf rhyngweithiol. Maen nhw’n dod yn agos at y cwch, ac maen nhw’n hoffi dangos eu hunain, gan ymateb i’r cwch a chymdeithasu efo’i gilydd, a dydyn ni byth yn gweld hynny efo anifeiliaid eraill. Felly dyna’r ffordd rydyn ni’n dechrau edrych ar ryngweithiadau cymdeithasol rhyngddyn nhw a sut mae’r boblogaeth wedi’i strwythuro.
[00:07:57] Rosie: Mae gan Sea Watch restr helaeth yn nodi pryd mae dolffiniaid wedi cael eu gweld, a nodiadau am eu hymddygiadau. Mae pob llun ID yn cyfrannu at ddarlun ehangach o ba ddolffin sy’n gwneud beth, gyda phwy maen nhw’n ymgysylltu, ac ar yr adeg yma o’r flwyddyn, os ydyn nhw’n mynd i gael rhai bach.
[00:8:12] Katrin: Mae yna gryn dipyn o famau rydyn ni’n gallu eu hadnabod. Er enghraifft, un o’r anifeiliaid mwyaf adnabyddus yn y Bae ar hyn o bryd yw Ghost, ac mae ganddi asgell y cefn sy’n hawdd iawn i’w hadnabod.
[00:00:22] Mae ganddi grib wen ac wedyn dwy stribed fawr wen ar waelod yr asgell, felly rydych chi wir yn gallu’i gweld hi’n hawdd o gryn dipyn o bellter a’i hadnabod.
[00:08:31] Rosie: Mae Katrin wedi gweld Ghost yn dod yn fam dair gwaith. Cafodd y llo cyntaf, Casper, ei eni pan oedd Katrin yn gynorthwy-ydd ymchwil, sef ei hail haf ym Mae Ceredigion.
[00:08:42] Dechreuodd y criw weld asgell gefn olau Ghost a hefyd wyneb dolffin bach newydd, gyda phlygiadau ffetysol ar hyd ei ochr yn dangos sut yn union yr oedd wedi rholio i fyny yn y groth. Ond dechreuodd y criw weld Ghost ar ei phen ei hun yn gynyddol, hyd nes iddi ddod yn amlwg nad oedd Casper wedi llwyddo i oroesi. Dyw hi ddim yn beth anghyffredin i ddolffiniaid cyntaf anedig beidio â goroesi.
[00:09:08] Mae dod yn fam pan rydych chi’n ddolffin yn waith caled ac mae’r bygythiadau i’r dolffin ifanc yn aruthrol. Ond nawr mae Katrin yn gallu cael gweld Ghost gyda’i llo tair blwydd oed, Spirit. Mae Spirit wedi dod yn gymeriad hyderus a chwareus o dan ofal arbennig Ghost sydd bellach wedi cael mwy o ymarfer. Efallai nad yw’n syndod wrth i gymdeithasau dolffiniaid newid ac ymffurfio, bod yna gysylltiad sy’n ymddangos i fod yn para.
[00:09:33] Katrin: Rydyn ni’n gweld cysylltiadau hirach rhwng mamau a’u hepil. Bydd lloi benywaidd yn arbennig, rydym ni’n credu, yn dychwelyd at eu mamau pan maent yn hŷn. Rydyn ni’n gwybod bod gan ddolffiniaid trwynbwl yr hyn sy’n cael ei alw’n chwiban nodedig. Felly maen fel enwau, yn y bôn. Mae yna rai astudiaethau sydd wedi dangos bod dolffiniaid trwynbwl benywaidd yn chwibanu i’w lloi pan mae’r llo yn dal i fod yn eu croth, fel bod y llo, am wn i yn dysgu chwiban ei fam a gwybod sut i’w hadnabod.
[00:10:01] Rosie: Dolffiniaid yw'r unig anifail arall, ar wahân i fodau dynol sydd wedi cael eu cofnodi yn enwi eu plant gyda galwadau unigryw. Mae’r galwadau yma yn hanfodol ar gyfer cyfathrebu rhwng dolffiniaid. Mae rhai adroddiadau wedi bod am ddolffiniaid yn gweithio gyda’i gilydd yn ystod amser bwydo a chwarae er mwyn galw ar ei gilydd. Ac mae hyd yn oed peth tystiolaeth o famau dolffiniaid yn siarad iaith babis er mwyn helpu i ddysgu eu lloi i gyfathrebu.
[00:10:24] Mae’n enghraifft o arddull rhianta unigryw dolffiniaid trwynbwl. Wrth i ddolffiniaid ifanc dyfu, yn raddol mae mamau’n rhoi mwy a mwy o ryddid iddynt, gan eu gadael i ffurfio eu cysylltiadau eu hunain, eu perthnasoedd eu hunain.
[00:10:37] Katrin: Rydyn ni yn gweld cryn dipyn o warchod yn digwydd o fewn podiau, fell bydd dolffiniaid benywaidd yn sicr yn gwarchod ar gyfer rhai benywaidd eraill.
[00:10:45] Rydyn ni wedi gweld ambell achos lle mae gan ddolffiniaid benywaidd fwy nag un llo gyda nhw ac yna yn nes ymlaen, bydd dolffin benywaidd arall yn ymddangos ac yn mynd â’r llo i ffwrdd. Felly maen nhw’n darparu’r hyn sy’n cael ei alw’n ‘alloparenting’, gan ddarparu gofal rhiant i unigolyn nad ydynt yn ddisgynyddion uniongyrchol iddynt. Rydyn ni wedi cael achos o hynny yn y gorffennol lle rydym wedi bod ar arolwg a’n bod wedi dynesu at anifeiliaid er mwyn tynnu ffoto adnabod, ac am beth amser, yr unig luniau oedd yn bosib eu cael oedd rhai o ddolffiniaid ifanc, oherwydd bod y mamau, mae’n ymddangos wedi mynd ymhellach yn nes at y lan ac wedi gadael y dolffiniaid ifanc i wneud yr hyn oedden nhw’n ei wneud o amgylch y cychod, ac roedden nhw’n cael amser gwych.
[00:11:14] Felly dyw pethau byth yn mynd yn ddiflas.
[00:01:18] Rosie: Er nad yw’r dolffiniaid eu hunain byth yn achosi diflastod, mae’r oriau hir ar y cwch yn dechrau llusgo. Mae’n dechrau teimlo fel taith gyfarwydd, gyda cherddoriaeth, brwdfrydedd, sgyrsiau dyfnion a chysgu o fewn eiliadau. Ac o bryd i’w gilydd, rhywun yn dechrau troi’n wyrdd, yn eistedd yn y gwynt ac yn anadlu’n ddwfn.
[00:11:41] Wrth i’r cwch droi ar lwybr newydd, yn chwilota’r môr sy’n dechrau llonyddu. Mae Claire, y cynorthwy-ydd ymchwil sydd ar fwrdd y cwch, yn aros yn eiddgar gyda chamera yn ei llaw. Drwy gydol y bore, hi sydd wedi arwain y tîm o interniaid, yn llawn mor barod gyda’i snaciau a’i chaneuon ag yw hi gyda’r rota. Mae’n dweud bod y byddai’r grŵp diwethaf o interniaid yn ei galw’n ‘mam’.
[00:12:02] Ac er ei fod yn llysenw roedd hi’n ei arddel yn anfoddog, mae’n hawdd gweld pam ddigwyddodd hyn. Dros yr haf, mae Claire wedi gweld cannoedd o ddolffiniaid mewn pob math o grwpiau. Ond mae rhywbeth wedi aros yn y cof iddi.
[00:12:17] Claire: Rwy’n meddwl fy mod i wedi sylwi ar lawer o bodiau mamolaeth. Yn arbennig felly yma, lle rydyn ni wedi cael o leiaf dau ddolffin trwynbwl newydd-anedig y tymor yma.
[00:12:24] Felly mae hi wirioneddol yn gymaint o fraint i weld eu holl wahanol ymddygiadau. P’un ai ydi o ond yn chwilfrydedd am y cychod, neu ydyn nhw’n dysgu chwarae ac mae popeth yn newydd iddyn nhw. Maen nhw’n dal i ddysgu sut i anadlu’n iawn a nofio oherwydd mae dolffiniaid yn anadlwyr ymwybodol. Maen nhw’n gorfod meddwl am bob anadl maen nhw’n ei gymryd.
[00:12:41] Mae’n rhywbeth mor rhyfeddol i’w weld.
[00:01:18] Rosie: Mae lloi dolffiniaid trwynbwl yn aros gyda’u mamau am amser hir - tair blynedd ar gyfartaledd. Y rheswm pam mae’r cwlwm mor dynn am gyhyd yw bod llawer i’w ddysgu am fod yn ddolffin. Mae sawl agwedd yn benodol i’r rhannau o’r byd maen nhw’n byw ynddo, ac i’r dolffiniaid sydd o’u hamgylch.
[00:13:00] Mae dysgu i fforio a bwydo mor bwysig, ond mae yna elfen arall sydd yn llawn mor hanfodol.
[00:12:06] Claire: Mae trosglwyddiad cymdeithasol o fewn eu cymdeithas mor, mor bwysig. Maen nhw’n dysgu ei gilydd sut i hela, sut i chwarae. Mae o fatha, pa bryd bynnag rydych chi’n tynnu unigolion penodol allan o un o’r podiau, mae hynny yn cael effaith.
[00:13:23] Maen nhw’n anhygoel o ddeallus. Rhy ddeallus, rwy’n meddwl. Ia, dyna ni. Ond maen nhw’n cymdeithasu. Mae’n hynod o ddiddorol gweld sut maen nhw’n cyflwyno eu boliau neu’r hyn rydw i’n hoffi ei alw’n gawl dolffin, a’r cyfan rydych chi’n gallu ei weld yw cynffonau a swigod yn sblasio.
[00:13:38] Rosie: Mae dolffiniaid trwynbwl Bae Ceredigion hefyd yn arbennig am reswm arall.
[00:13:43] Claire: Ac mae’r ffaith eu bod nhw hefyd, oherwydd tymheredd y dyfroedd, a faint o bysgod sydd ar gael, mai nhw ydi’r rhai tewaf yn y byd. Pan mae’r dolffin trwynbwl anferth yna yn neidio, dwi ddim yn credu eich bod chi’n sylweddoli y gallen nhw fod tua phedair metr. Maen nhw mor fawr. Ac mae o hyd yn oed jest lled y dolffin mor solat.
[00:14:03] Nid dyna ydi’r term technegol ond ia, dyna ni.
[00:14:07] Rosie: Mae eu maint a’u gallu deallusol yn rhan o’r rheswm pam mae dolffiniaid mor hoffus. Mae eu triciau anhygoel, y ffordd maen nhw’n bod mor chwareus efo’i gilydd ac efo pobl. Mae eu deallusrwydd er hynny yn dod law yn llaw ag ochr fwy didostur.
[00:14:21] Claire: Pryd bynnag rydyn ni’n tynnu lluniau adnabod ac mae ganddyn nhw farciau rhaca, felly maen nhw’n gwneud hynna efo’u dannedd, tra maen nhw'n cymdeithasu, neu hyd yn oed mi all fod yn ymddygiad mwy treisiol, maen nhw’n rhywogaeth sy’n drechol.
[00:14:34] Hynny yw, nhw sydd ar y brig o ran rheibwyr y bae. Does yna ddim wir unrhyw fygythiad arall iddyn nhw. Efallai mai’r bygythiad arall sydd ganddyn nhw yw dolffin trwynbwl blin arall.
[00:14:46] Rosie: Mae’r marciau rhaca yma yn gliw hanfodol er mwyn deall y berthynas rhwng dolffiniaid. Dyma yn aml sut mae’n bosib adnabod dolffiniaid unigol, oherwydd mae’r marciau brathu yma yn aros gyda nhw ar hyd eu hoes. Mae’r ochr fwy tywyll yma o ymddygiad dolffiniaid yn datgelu rhywbeth ynghylch pam mae’r rhwydweithiau cymdeithasol yma mor bwysig. Nid dim ond amddiffyniad rhag bygythiadau sydd yma, mae’n amddiffyn y naill rhag y llall.
[00:15:08] Ac i ddolffiniaid ifanc sydd eto i ddysgu am y ddeinameg gymhleth rhwng pob dolffin, mae’r amddiffyniad yma yn hanfodol.
[00:15:17] Claire: Mae yna achosion o ladd rhai ifanc, sy’n digwydd yn aml ymysg y gwrywod, maen nw’n ceisio lladd y rhai newydd-anedig, ond mae hyn oherwydd eu bod yn rhywogaeth trythyll. Dydyn nhw ddim o anghenraid yn gwybod pa rai newydd-anedig sy’n perthyn i bwy. Rwy’n meddwl bod yna, roedd yna ddigwyddiad yn y bae.
[00:15:40] Rosie: Roedd yna ddolffin newydd-anedig wrth y cwch efo’i fam a dolffin benywaidd arall. Sylwodd y criw pa mor dynn roedd y llo wedi'i wasgu rhwng y dolffiniaid yma. Doedden nhw erioed wedi gweld y fath beth o'r blaen. Dechreuodd grŵp o ddolffiniaid nofio o amgylch y triawd a dechreuasant geisio codi o’r dŵr gan lanio ar y llo, bron â bod.
[00:16:02] Wrth i’r dolffiniaid oedd yn cylchu barhau i ddod ben-ben efo’r dolffin newydd-anedig a’i amddiffynwyr, daeth yn amlwg beth roedden nhw’n ei weld. Roedd hon yn ymgais i ladd y dolffin newydd-anedig. Mae gan ddolffin trwynbwl gorn pwrpasol ar ei ben, ac yn gallu lladd anifail dwywaith ei faint. Felly, yr unig beth rhwng y llo bach yma a’i dynged angheuol oedd ei fam a’r dolffin arall oedd wedi ymrwymo i’w warchod.
[00:16:30] Claire: Doedd hyn ddim yn llwyddiannus, ond ‘dach chi’n gwybod, roeddech chi’n gallu’i weld o. Mae’n digwydd ambell dro lle mae’r trais yn cael ei anelu at y newydd-anedig oherwydd eu bod yn darged hawdd. A dyma pam ei bod hi mor bwysig iddyn nhw aros o fewn eu podiau mamolaeth oherwydd maen nhw’n amddiffyn ei gilydd.
[00:16:44] Rosie: Mewn bae sydd heb siarcod, y bygythiad mwyaf i ddolffin trwynbwl yw dolffin trwynbwl arall.
[00:16:49] Mae’n bosib mai awch y gwryw i baru yw achos dros ladd y dolffiniaid newydd-anedig. Mae mamau dolffiniaid yn buddsoddi llawer o amser yn eu lloi, felly tra maent yn magu llo, does ganddyn nhw ddim unrhyw ddiddordeb mewn paru. Felly mae’r podiau mamolaeth yn hanfodol ar gyfer trosglwyddo ymddygiad, dysgu i fforio, cymdeithasu ac ar gyfer rhoi hoe haeddiannol i famau, ac maen nhw hefyd yn angenrheidiol er mwyn i’r lloi yma aros yn fyw.
[00:17:13] Mae Ghost, wnaeth golli ei llo cyntaf, wedi bod yn fam eithriadol o lwyddiannus wedi hynny, diolch yn bennaf i’w pherthynas gyda mamau eraill. Fe welwch chi hi’n aml gyda Berry a’i llo, Luna, neu Tally a’i llo hi, Summer. Nid dim ond gwarchod rhai newydd-anedig mae’r dolffiniaid yma, maen nhw’n eu hamddiffyn.
[00:17:35] Wrth i’r dydd ddirwyn i ben, mae’r haul yn dechrau llithro i’r gorwel. Mae oriau wedi mynd heibio ers i unrhyw asgell dorri drwy’r dŵr. Yr unig beth sy’n allweddol er mwyn deall y cymdeithasau cyfnewidiol yma yw drwy’r gwaith ymchwil hanfodol yma. Ac wrth i’r tymor ddod i ben, mae’n bosib mai dyma’r cyfle olaf i wylio eu rhwydweithiau cymdeithasol ar waith.
[00:17:57] Wrth i bob eiliad fynd heibio, mae’r cipolwg bach yna i’w byd yn teimlo fel pe bai’n llithro i ffwrdd. Mae’r tîm yn flinedig, felly mae fy nghyfarwyddwr, Marnie yn cynnig gwneud sifft yn edrych am ddolffiniaid. Er bod y rôl yna yn ymddangos fel un ddelfrydol, mae’r lle eistedd ar y fainc reit ar ben y cwch, yn nannedd y gwynt, ac oherwydd ei uchder, mae’n golygu eich bod chi’n teimlo pob craig a thon.
[00:18:22] Wrth eistedd efo un o’r interniaid, Charlie, mae’n dweud wrth Marnie bod y fainc yn enwog am achosi salwch môr a bysedd oer a diffrwyth.
[00:18:31] 55 munud i mewn i’w sifft awr o hyd, y cyfan maen nhw wedi’i weld yw cwch pysgota yn y pellter. Yr unig sŵn yw grŵn yr injan.
[00:18:40] Marnie: Ai dolffin yw hwnna? O, Mam bach, gwelsom ddolffiniaid!
[00:01:18] Rosie: Mae rhywbeth yn wahanol am yr un yma. Mae’r cwch wedi’i amgylchynu gan ddolffiniaid, sy’n symud yn sydyn o grŵp i grŵp. Mae penderfynu pwy i’w ddilyn ychydig yn anodd. Ond wedyn mae parau llai a thriawdau yn uno ychydig gannoedd o fetrau i ffwrdd oddi wrth y cwch. Wedi cael eu dwyn ynghyd gan rywbeth.
[00:19:19] Katrin: Ym, felly mae gennym ni grŵp eithaf mawr o ddolffiniaid efo ni, ym, fwy na thebyg tua, dwn i ddim, yh, fwy na thebyg rhyw 15 arall efo, ym, rhai ifanc.
[99:19:29] Dw i wedi gweld un neu ddau o’r un rhai oedd gennym ni fore heddiw, ond yn bendant, mae yna rai newydd, ac mae hynny i’w ddisgwyl oherwydd, ym, mae dolffiniaid yn byw o fewn cymdeithas ‘fission-fusion’. Felly y bore hwnnw mi fydden nhw wedi, roedden nhw’n cysylltu gyda dolffiniaid eraill. Ac mae yna un neu ddau sydd wedi ymuno efo’r cwpwl sydd wedi gadael nawr.
[00:19:48] Ym, mae rhai o’r lloi yn cael llawer o hwyl yn cael eu codi i fyny ar don sy’n cael ei chreu gan gefn y cwch ar y funud. Ym, a nawr, mae’n ymddangos eu bod wedi gwasgaru ychydig bach mwy eto. Pan maen nhw wedi gwasgaru fel hyn, ym, mi all fod yn arwydd eu bod nhw’n mynd ar ôl bwyd yn arbennig felly gan eu bod yn dod i’r wyneb yn eithaf afreolaidd ond yn aros yn yr un ardal gyffredinol.
[00:20:12] Dyna ni, draw yn yn fan’na.
[00:20:14] Rosie: Mae gwylio cymdeithas y dolffiniaid yn newid ac yn uno yn digwydd o flaen ein llygaid yn rhywbeth i’w drysori. Mae’n teimlo fel pe baech chi’n gallu gweld y cysylltiadau rhwng yr anifeiliaid, y trefniant cymdeithasol rhyngddynt, ond mae yna ryw elfen ansicr i’w hymddygiad nawr. Rydach chi’n sylw nad ydi’r dolffiniaid ifanc byth yn cael eu gadael heb fod mewn grŵp bychan.
[00:20:31] Mae dolffiniaid bron â bod yn greaduriaid chwedlonol, ac yn enwog am eu deallusrwydd a’u tosturi. Ond, fel efo nifer o greaduriaid deallus, mae bod yn ymosodol fel pe bai’n dod ochr yn ochr â hyn. Mae Katherine wedi bod yn dyst i ddolffiniaid wrth iddyn nhw arddangos eu holl ymddygiadau, wedi gweld ymgais i ladd llo ifanc, ac wedi profi llawenydd gweld dolffiniaid yn chwarae.
[00:20: 50] Mae hi hyd yn oed wedi cael slefren fôr yn cael ei thaflu ati gan ddolffin. Mae’r cynhyrchydd, Marnie, yn gofyn iddi, ‘Be ydych chi eisiau i bobl ei ddeall am y creaduriaid cymhleth yma?’
[00:20:59] Katrin: Er nad ydi dolffiniaid trwynbwl yn ymddangos i fod yn union beth mae pobl yn feddwl ydyn nhw, felly maen nhw ychydig bach yn fwy ymosodol na’r hyn fyddai pobl yn hoffi ei feddwl, dyw hynny ddim yn eu gwneud nhw’n llai gwerthfawr i’w gwarchod, ac mae’r anifeiliaid sydd gennym ni yma yn eithaf unigryw gan nad oes gennym ni ond dwy boblogaeth lled-breswyl o’r dolffiniaid trwynbwl yma o amgylch y DU.
[00:21:18] Ac mae gennym ni un ohonyn nhw yma, felly mae’n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i’w cael nhw o amgylch y fan yma ac yn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
[00:21:26] Rosie: Mae’r ysfa i briodoli nodweddion dynol i’r dolffiniaid yma yn un gref. Mae eu hymddygiadau a’u strwythurau cymdeithasol yn adlewyrchu ein rhai ni ein hunain mor agos fel ei bod yn anodd iawn peidio â chael eich swyno wrth edrych arnyn nhw.
[00:21:37] Ond mae Katrin yn tynnu sylw ar y ffaith fod gan y dolffiniaid yma ran fwy i’w chwarae ac mae cymhlethdod eu perthnasoedd, y teimlad yna o lawenydd eithriadol wrth iddyn nhw neidio gyda’i gilydd allan o’r dŵr, neu’r teimlad yna o fethu ag edrych arnyn nhw o du ôl eich dwylo rhag ofn i chi weld llo yn dioddef o ganlyniad i’w natur ymosodol, yn chwarae rôl anferthol yng nghadwraeth Bae Ceredigion.
[00:21:56] Katrin: Drwy roi mesurau cadwraeth yn eu lle, nid yn unig ydyn ni’n gwarchod y dolffiniaid, ond rydyn i hefyd yn gwarchod ymddygiadau hanfodol. Felly maen nhw wir yn rhywogaeth hynod bwysig o safbwynt cadwraeth. Ac rydyn ni mor arbennig o lwcus ein bod ni’n cael gweithio efo nhw.
[00:22:12] Rosie: Wrth i Katrin, Claire a’u tîm ei throi hi'n ôl, mae’r llen o ddŵr a dirgelwch yn cael ei daflu’n ôl dros y dolffiniaid. Mae’r gaeaf yn gwneud cynnal y math yma o arolygon yn amhosib, felly fydd dim modd gwybod beth fydd ffawd y lloi rydyn ni wedi’u gweld heddiw tan y tymor nesaf. Ond mae’n ymddangos fel pe bai ganddyn nhw grŵp cymdeithasol cryf o’u hamgylch. A heddiw, am ennyd fer, rydym ni wedi cael cipolwg bach ar y rhwydweithiau sy’n dal y gymdeithas yma o dan y tonnau at ei gilydd.
[00:22:37] Diolch
[00:22:55] am ymuno â mi i fwynhau’r hanes gwyllt yma. Oes gennych chi stori anhygoel am y byd naturiol? Mi faswn i wrth fy modd yn clywed gennych chi. Mi allwch chi ddod o hyd i ni ar Instagram, ar wildtalesnt. Ac yma fe ddewch o hyd i foment neu ddwy y tu ôl i’r llen, cewri byd natur, a’r rhyfeddodau meicro sy’n gwneud ein byd yr hyn ydyw. Rydyn ni’n defnyddio’r hashnod WildTalesWednesdays neu’n e-bostio podlediadau ar nationaltrust.org.uk
[00:23:18] i anfon lluniau a straeon o’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwrando ar bob pennod dryw ddilyn Wild Tales ar eich hoff ap podlediad. Gwell fyth, beth am adael adolygiad neu sylw ar bennod. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn. Oeddech chi’n gwybod ein bod hefyd yn gwneud podlediadau fideo? Maen nhw i’w cael ar ein sianel YouTube neu ar Spotify.
[00:23:42] Tra byddwch chi yna, beth am gadw golwg ar ein sioe hanes, Back When neu, ar gyfer y rhai ifanc, Ranger Ray and the Wildlifeers. Welwn ni chi y tro nesaf.
[00:23:59] Mae Wild Tales wedi’i noddi gan Cotswold Outdoor, eich siop awyr agored, ac arweinwyr antur epig, chwa o awyr iach, teithiau cerdded heddychlon neu heiciau sy’n gwneud i’ch calon guro. Rydyn ni’n teimlo’n well pan rydyn ni’n mynd allan yn amlach. Dewch o hyd i’r cyfan sydd ei angen arnoch a 50 mlynedd o ddoethineb am fod allan yn yr awyr agored. A hefyd, mae cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael 15 y cant o ostyngiad ar becynnau cerdded yn y siop ac ar-lein.
[00:24:23] Teimlwch yn eich elfen, yn yr elfennau, yn Cotswold Outdoor.
[00:24:32] Fe ges i eog wedi’i daflu ata’ i gan, gan ddolffin trwynbwl. Ym, mae honna’n ffaith wir. Roedd o’n eog anferth hefyd. Felly dyna ni, pe baech chi wedi prynu hwnna, wedi prynu hwnna yn y siop bysgod, byddech chi wedi gorfod gwario tua 40 o bunnoedd. Arhoswch funud! Dwi’n recordio! Dyna ni, hwyl ichi.
[00:24:56] O’n, ro’n i’n eistedd efo blanced ar fy mhen. Dyna sut dwi’n gweithio nawr. Dyma pwy ydw i.
We recommend upgrading to the latest Chrome, Firefox, Safari, or Edge.
Please check your internet connection and refresh the page. You might also try disabling any ad blockers.
You can visit our support center if you're having problems.