CLAIRE HICKINBOTHAM: Helo a chroeso i Nature Fix gyda mi, Claire Hickinbotham.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Bob mis, rydych yn dod gyda ni wrth i ni gwrdd â’r bobl sy’n treulio eu hamser yn yr awyr agored ac yn ymuno â nhw mewn lleoliad sy’n eu hysbrydoli fwy nag unlle arall. Heddiw, rydym ym Mannau Brycheiniog, i gwrdd ag Emma Kolano-Rogers, a newidiodd ei meddwl yn gynnar iawn yn ei gyrfa a gadael y swydd yr oedd hi wedi hyfforddi yn y brifysgol ar ei chyfer a chael swydd yn hytrach yn yr awyr agored ym mhob tywydd.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Ymhle rydym wedi cwrdd â chi, Emma?
EMMA KOLANO-ROGERS: Rydym ar ymyl Bannau Brycheiniog. Rydym ar ochr ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin ac rydym ar fin mynd i geisio canfod Morwyn Llyn y Fan. Nid oes llawer o leoedd mwy gwledig na fan hyn, ond mae hynny’n berffaith imi.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Mae’r bryniau’n fawr, yn dydyn? Mae’r cymoedd yn fawr ac felly mae’r awyr yn fawr. Mae gennym raeadr fyrlymus yn rhuthro dros y cerrig wrth ein hymyl.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ac mae’n swnllyd iawn, dim ond wrth i chi gerdded yn uwch i fyny’r bryniau mae sŵn yr afon yn tawelu ac rydych wir yn cael tawelwch llwyr yr ardal wledig. Mae rhai pobl yn cael trafferth fawr gyda thawelwch llwyr, felly gall sŵn yr afon fod fel peiriant sŵn gwyn ar gyfer y bobl sy’n ymweld ag ardaloedd fel fan hyn - gall fod yn heddychlon iawn.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Dwi allan o wynt yn barod.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Rydym yn mynd i fyny.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ie, sy’n disgrifio bron iawn i bob taith gerdded yn ardal y Bannau, rydych yn parcio eich car ac yna mae’n ddringfa syth ac yna mae gennych y golygfeydd ac yna rydych yn cerdded yn ôl i lawr ar lwybr syth.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Felly, rydych newydd eich penodi fel ceidwad yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol?
EMMA KOLANO-ROGERS: Do, ym mis Medi fe ddechreuais fel prentis ceidwaid felly nid oedd gennyf unrhyw brofiad blaenorol. Fe ddechreuais fy ngyrfa fel darlunydd ac yna symud ymlaen i waith dylunio a sylweddolais nad oeddwn yn ei fwynhau. Roeddwn bob amser yn teimlo ar nos Sul bod fy amser rhydd wedi dod i ben a bod gennyf bum diwrnod o waith o fy mlaen nawr.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ie, roeddwn yn teimlo’n ddigalon ar ddydd Sul oherwydd fy mod yn gwybod bod rhaid imi fynd yn ôl i amgylchedd swyddfa, yn enwedig pan roedd yr haul yn tywynnu. Dyna’r lle olaf roeddwn eisiau bod. Felly dechreuais wirfoddoli gydag elusennau cadwraeth. Ac yna daeth hysbyseb y swydd brentis hon.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ac yr unig feini prawf oedd angen eu bodloni oedd nad oedd gennych unrhyw brofiad blaenorol. Teimlais fy mod wedi canfod fy lle. I ddod o swydd yr ydych yn gwybod yn y bôn nad ydi hi’n addas ichi, i swydd lle rydych yn deffro bob bore ac yn edrych ymlaen at weld beth sydd ar y gweill. Nid yw hyd yn oed yn teimlo fel swydd.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Felly, nid ydych wedi cerdded y daith hon i fyny at y llyn o’r blaen, naddo?
EMMA KOLANO-ROGERS: Naddo, heddiw fydd fy nhro cyntaf i fyny yn y fan hyn, hefyd. Ac rwyf wedi fy syfrdanu gan y golygfeydd. Mae afon brydferth yn llifo ger ochr y llwybr yr ydym yn cerdded ar ei hyd ar y ffordd i fyny. Rydym bellach wedi cyrraedd y rhannau lle mae’n edrych fel bod rhaeadrau bychain yn byrlymu i mewn iddi ac rwyf wir wedi gwirioni.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Rwy’n credu bod Bannau Brycheiniog yn adnabyddus am ei rhaeadrau, yn tydi?
EMMA KOLANO-ROGERS: Ydi, gwlad y rhaeadrau, mae yna afonydd, rhaeadrau ac mae yna gymoedd, ym mhob man. Petaech yn mynd i Ben y Fan byddech o bosib yn gweld miloedd o bobl mewn diwrnod, neu rywle debyg i fan hyn lle rwy’n credu ein bod wedi gweld tua thri pherson yn gyfan gwbl hyd yn hyn, beth bynnag sydd ei angen arnoch, mae ar gynnig.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Rydych wedi crybwyll Morwyn Llyn y Fan.
EMMA KOLANO-ROGERS: Do. Yn niwylliant Cymru, mae’r llên gwerin a’r mythau a’r chwedlau yn siapio llawer o’i hanes a hefyd llawer o’r diwylliant modern hyd heddiw.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Ac maen nhw’n rhywbeth yr ydych yn cael eich cyflwyno iddyn nhw o oed ifanc yng Nghymru?
EMMA KOLANO-ROGERS: Ydi a nac ydi. Rwy’n credu bod pawb a aeth i ysgol gynradd cyfrwng y Gymraeg yn gwybod am straeon fel Beddgelert. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn dibynnu ar lle rydych yn cael eich magu. Rwy’n gwybod bod gan bobl a gafodd eu magu yn y cymoedd gysylltiad mwy diwylliannol â Chymru, tra daeth hyn oll imi mewn cyfnod llawer yn hwyrach mewn bywyd.
EMMA KOLANO-ROGERS: Cefais ryw fath o addysg yr iaith Gymraeg yn yr ysgol a gan ei bod wedi’i gwthio arnaf i, roedd gennyf yr amharodrwydd hwn i’w defnyddio a dim ond yn hwyrach ymlaen mewn bywyd wnes i ddechrau dysgu Cymraeg oherwydd fy mod eisiau archwilio mwy o fy ngwreiddiau. Dyna lle sbardunodd y gwir angerdd dros ddeall o lle ddaeth fy niwylliant.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Felly, Emma, wrth inni gerdded i fyny darn o’r llwybr, rydym yn sniffian ychydig.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Ac nid oes gennyf hances boced. Ond fe ddywedoch chi nad oes angen hances bapur ar geidwaid.
EMMA KOLANO-ROGERS: Mae’n rhywbeth afiach a sylweddolais ar o gwmpas fy ail ddiwrnod fel ceidwad, a hynny yw bod neb yn cario hances gyda nhw oherwydd pan rydych allan ym myd natur, mae cyfuniad o’r oerni, y paill a phopeth arall sy’n digwydd yn golygu bod eich trwyn yn rhedeg drwy’r amser. Felly mae fy holl gyd-geidwaid wedi ceisio fy mherswadio na’r oll sydd angen i mi ei wneud yw chwythu fy nhrwyn i gael popeth allan ac ni fydd angen imi gario hances fyth eto.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Nid wyf erioed wedi clywed y tric ceidwaid yna o’r blaen.
EMMA KOLANO-ROGERS: Gall unrhyw un ei wneud. Yr oll sydd angen iddyn nhw ei wneud yw gorchuddio un o’u ffroenau a gwthio un pwff mawr o aer allan o un o’u ffroenau i’w chlirio ac yna gwneud yr un fath ar yr ochr arall. Ac mae’n debyg ei fod yn achub y byd rhag un hances ar y tro, hefyd.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Credaf y gallwch fod yn fodlon nawr drwy wybod eich bod yn achub y blaned.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ie, nid wyf yno eto, ond efallai un diwrnod.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Felly, ydych chi’n meddwl ein bod ni bron yna?
EMMA KOLANO-ROGERS: Ydw, felly rydym yn mynd rownd y gornel ac yna fe allwch weld lle mae’r haul yn adlewyrchu oddi ar un rhan o’r bryn yn y fan acw. Rwy’n gobeithio y bydd yn foment wyllt lle bydd yn cyflwyno ei hun i ni.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Mae’n rhaid ein bod ni’n agos. Faint o gamau ydych chi’n meddwl bod angen inni eu cymryd eto tan y byddwn yn ei weld?
EMMA KOLANO-ROGERS: Deg. Cam mawr.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Dyna fy 10. Ydych chi wedi gwneud 10?
EMMA KOLANO-ROGERS: Rwyf wedi gwneud 10. Allwch chi ei weld?
EMMA KOLANO-ROGERS: Bron.
EMMA KOLANO-ROGERS: Dyma fe.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Mae’n edrych fel ceudwll folcanig, yntydi?
EMMA KOLANO-ROGERS: Yn bendant. Mae’r bryn sydd y tu ôl iddo â gogwydd 80 gradd iddo. Felly mae yna gwymp dramatig o frig y cribyn hwnnw i lawr at y Llyn.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Ac yna mae hanner arall y ceudwll yn agor i’r cymoedd, yntydi? Ydi. O waw, edrychwch ar yr olygfa! 10 cam ychwanegol ac mae wedi newid eto, yn tydi?
EMMA KOLANO-ROGERS: Rwy’n gwybod, mae’n newid cymaint gyda phob cam.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Felly, beth yw stori Morwyn Llyn y Fan sy’n cynnwys y Llyn hwn yr ydym wrth ei ymyl heddiw?
EMMA KOLANO-ROGERS: Roedd dyn o’r enw Gwyn a oedd yn byw ar fferm gyda’i fam. Yn aml iawn, roedd rhaid iddo fynd â’i wartheg i bori ac roedd yn mwynhau caws a bara rhyg pan sylweddolodd fod dynes ar ochr arall y Llyn a oedd yn edrych fel petai yn arnofio.
EMMA KOLANO-ROGERS: Roedd hi’n arallfydol, ac yn ymddangos fel ei bod yn meddu ar rym goruwchnaturiol ac roedd ef wedi ei syfrdanu’n llwyr. I’r pwynt lle na allai siarad ac yr unig beth allai ei wneud oedd estyn ei dorth hen a chrystiog iddi. Felly, fe arnofiodd hi ar draws y Llyn a phan welodd na’r oll oedd ganddo oedd bara haidd, fe chwarddodd hi a phlymio i’r Llyn.
EMMA KOLANO-ROGERS: Felly fe aeth adref a dweud wrth ei fam am beth a welodd. Ac roedd hi’n meddwl bod hynny oherwydd bod y bara yn rhy hen ac yn rhy grystiog. Fe wnaf i dorth o fara mwy meddal i ti. Felly aeth yn ei ôl. Fe ddaeth hi’n llawer agosach iddo y tro hwn, ac fe allai weld sbeciau gwyrdd a brown ei llygaid. Y tro hwn, fe dderbyniodd hi’r dorth fara newydd. Fe afaelodd yn ei llaw a gofyn iddi ei briodi. Fe ddywedodd hi, fe briodaf i ti ar ddau amod.
EMMA KOLANO-ROGERS: Yr amod cyntaf yw na fyddi fyth yn datgelu i unrhyw un o ble rwyf wedi dod na tharddiad fy mhwerau. Ac yr ail yw os byddi fyth yn fy nharo dair gwaith, byddaf yn gadael heb ddweud gair a ni fyddi yn fy ngweld fyth eto. Felly fe adawodd Nelferch, Gwyn a’u holl wartheg y Llyn ac fe gawson nhw fywyd llwyddiannus a hapus iawn a thri mab cryf ac iach. Ac felly y bu am flynyddoedd tan iddo daro Nelferch
EMMA KOLANO-ROGERS: Ar ôl hyn, fe wellodd ei dymer, ond fe darodd Nelferch am yr ail dro. Yn anffodus, ymhen ychydig o amser fe’i tarodd am y trydydd tro.
EMMA KOLANO-ROGERS: Roedd hi’n gadael am y drws yn barod. A phan gyrhaeddodd ef droed y Llyn, fe blymiodd hi i’r Llyn ac aeth ef yn wallgof gyda galar. Roedd ei feibion wedi eu llorio â galar i’r un graddau. Ychydig o flynyddoedd ar ôl marwolaeth eu tad, fe ymddangosodd eu mam am un tro olaf. Fe ddywedodd hi mai dim ond un diwrnod oedd ganddi yn eu cwmni. Ac fe roddodd hi genhadaeth iddyn nhw i fod yn iachawyr y ddynolryw.
EMMA KOLANO-ROGERS: Fe wnaeth hi eu dysgu am feddygaeth lysieuol a nodweddion iachau planhigion gan ddymuno iddyn nhw rannu’r wybodaeth hon gyda’r gymuned leol a’i throsglwyddo drwy’r cenedlaethau. Ac yna fe wnaeth hi gofleidio pob un ohonyn nhw, dychwelyd i’r Llyn a dyna oedd y tro olaf iddi gael ei gweld.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Ac a yw Morwyn Llyn y Fan yn ail-ymddangos weithiau?
EMMA KOLANO-ROGERS: Dim cyn belled ag y gwn i. Y sôn yw, gan ei bod hi’n fod anfarwol, ni fydd ei chariad na’i galar byth yn lleihau nac yn gwanio, bydd rhaid iddi fyw gyda hynny am byth.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Fe ddewisodd hi fan prydferth iawn i gael bywyd tragwyddol, yndo?
CLAIRE HICKINBOTHAM: Dewch inni fynd i gymryd golwg bach arall arno.
EMMA KOLANO-ROGERS: Yn y lle rydyn ni nawr, mae’r haul yn uniongyrchol uwch ein pen ac mae’n disgleirio, mae’r Llyn cyfan yn disgleirio.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Rydym wedi cerdded i fyny yma gyda sŵn yr afon ac mae’n sŵn gwahanol iawn i Lyn yn taro yn erbyn glan, yntydi?
EMMA KOLANO-ROGERS: I mi, mae o bron yn fyfyriol ac yn lleddfol iawn.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Ydych chi’n ystyried bod rhan o’ch gwaith fel ceidwad yn cynnig elfennau myfyriol.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ydw, 100%. Y peth cyntaf rwy’n teimlo sy’n dda iawn i’r enaid yw’r ffaith eich bod yn gwneud tasg ac yna efallai yn cymryd egwyl fach ac rydych yng nghanol y dirwedd fwyaf hardd y gallech ddychmygu. Ac yr ail yw bod y gwaith yr ydych yn ei wneud yn helpu gyda chadwraeth ac yn gwarchod y dirwedd.
EMMA KOLANO-ROGERS: Mae’n gydbwysedd perffaith oherwydd rwy’n cael profi’r cefn gwlad gwledig yn fy swydd, ond yna rwy’n cael dychwelyd i fwrlwm a phrysurdeb y ddinas yng Nghaerdydd. Ac rwyf o’r farn petaswn ddim ond yn cael y naill neu’r llall, ni fyddai fy ffordd o fyw yn gweithio. Roedd gwneud y newid hwn yn dipyn o naid. Fe gymerodd flynyddoedd o waith ystyried. Roeddwn yn gwybod fy mod yn anhapus. Ac rwy’n credu mai hynny oedd fy ysgogydd, roeddwn yn gwybod yn y bôn bod problem fawr iawn gyda fy ffordd o fyw ac roedd yn effeithio ar fy ngallu i fynd allan a chymdeithasu oherwydd roeddwn dioddef o orbryder ar adegau gan fy mod yn y sefyllfa anffodus o feddwl beth oeddwn yn ei wneud gyda fy mywyd, nid oeddwn yn yr yrfa gywir a ddim ar y trywydd iawn.
EMMA KOLANO-ROGERS: Roedd newid gyrfa yn benderfyniad mawr iawn ond yn un yr wyf yn falch iawn fy mod wedi ei wneud, felly pan mae pobl yn dweud wrthyf eu bod yn genfigennus o fy swydd, rwy’n credu bod rhan ohono yn ymwneud â’r ffaith eu bod yn meddwl fy mod bob amser allan ar ddiwrnodau braf a fy mod bob amser yn y bryniau a bod hynny’n wych, ond credaf fod rhan ohono oherwydd eu bod yn anhapus yn eu swydd eu hunain ac rwyf bob amser yn dweud wrthyn nhw os nad ydych yn hapus fe allwch ei newid bob amser.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ai dros dro yw hyn? Ydych chi’n meddwl y bydd yn gwella? Ac os na ‘na’ yw’r ateb, yna buaswn yn eu hannog yn garedig i newid agweddau penodol o’u bywyd er mwyn blaenoriaethu eu hapusrwydd.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Credaf y dylen ni ddweud ar yr adeg hon nid yw eich diwrnodau i gyd fel ceidwad yn rhai allan yn yr haul.
EMMA KOLANO-ROGERS: Rwyf wedi cael diwrnodau fel ceidwad lle mae wedi cymryd amser sylweddol i gael teimlad yn ôl yn fy mysedd. Rwyf wedi cael diwrnodau fel ceidwad lle rwyf wedi syrthio i mewn i gorsydd ac wedi cael fy nhynnu allan wrth i rywun dynnu ar fy sach gefn. Ond mae pob un diwrnod wedi bod mor unigryw, mor foddhaol ac mor wahanol.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Rydym wedi gadael y forwyn a’i llyn y tu ôl i ni, Emma.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Rydym ar ein ffordd i lawr nawr.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Mae yna lawer o straeon eraill y gallwn eu trafod, ond mae llond llaw o rai eraill yr wyf yn meddwl y byddech yn eu mwynhau.
EMMA KOLANO-ROGERS: Mae yna un stori sydd â’r enw Draig Coedwig Maesyfed. Mae’n sôn am ddraig a fyddai’n codi braw ar y gymuned leol. Byddai’n bwyta’r da byw. Byddai’n llosgi pethau yn y gymuned ac fe ddaeth yr angel Sant Mihangel i ladd y ddraig a chael ei weld fel ffigwr gwrol gan y pentref.
EMMA KOLANO-ROGERS: Fe adeiladodd y pentrefwyr bum eglwys o amgylch y ddraig er mwyn ynysu ei chorff ac fe adeiladwyd pob un o’r eglwysi ar un o’r twmpathau a oedd eisoes yn bodloni ar y dirwedd. Mae’r chwedl yn dweud petai un o’r eglwysi hyn yn cael ei chwalu, byddai’r ddraig yn ail-ddeffro ac yn parhau i godi braw ar y pentrefi.
EMMA KOLANO-ROGERS: Mae’r stori hon yn wych oherwydd mae’n cyd-fynd â’r dirwedd naturiol. Mae gweddillion bryngaer yr Oes Haearn o’r enw Creigiau Llandeglau i’w gweld hyd heddiw, wedi ei gosod ar ymyl crib ac oherwydd y ffordd y mae’r creigiau wedi cwympo dros y blynyddoedd, mae llawer o’r bobl leol yn dweud mai asgwrn cefn y ddraig ydyw.
EMMA KOLANO-ROGERS: Rwyf bob amser yn hoffi clywed stori sydd gyda lleoliad go iawn ynghlwm â hi er mwyn i chi allu dychmygu hyn oll yn dod at ei gilydd.
EMMA KOLANO-ROGERS: Mae’n tynnu pobl yn ôl at hanes, treftadaeth a hanes diwylliannol Cymru. Ac adrodd straeon yw un o’r ffyrdd hynaf o drosglwyddo dogfennau a gwybodaeth bwysig rhwng cenedlaethau, yn arbennig gyda phlant, i’w gwneud nhw’n gyfarwydd â’r mythau a’r chwedlau hyn. Mae’n mynd i roi gwell dealltwriaeth iddyn nhw o’r diwylliant y maent yn tarddu ohono.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Pan gychwynnon ni bore heddiw, Emma, fe wnaethoch chi grybwyll Beddgelert yn sydyn. Credaf fod y mwyafrif o bobl yn gyfarwydd â’r stori. Mae’n un adnabyddus dros ben, ond credaf y dylech ei hadrodd beth bynnag. Ond rwy’n oedi wrth ofyn ichi ei hadrodd oherwydd mae bob amser yn fy ngwneud yn drist iawn.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ydi, mae’r un yma yn eithaf trist. Felly, mae gennych Dywysog Gwynedd, hefyd yn dwyn yr enw Llywelyn ab Iorwerth, a’i gi smart a dibynadwy, Gelert. Fe adawodd y tywysog ar helfa un diwrnod a gadael ei etifedd newydd-anedig, ei fab, yn nwylo doeth Gelert. A phan adawodd y Tywysog Llywelyn, roedd blaidd wedi mynd i mewn i’r castell.
EMMA KOLANO-ROGERS: Fe ymladdodd y ddau frwydr waedlyd a llwyddodd Gelert i ladd y blaidd. Yn ystod y stŵr, roedd preseb y mab wedi ei droi drosodd ac eiliadau yn ddiweddarach, wrth glywed Tywysog Llywelyn yn dychwelyd o’i helfa, carlamodd Gelert allan i gyfarch ei feistr ac roedd Tywysog Llywelyn mewn sioc lwyr wrth weld ei gi yn waed i gyd ac fe redodd ar unwaith i weld a oedd ei fab yn iawn. Wrth iddo fynd i mewn i ystafell ei fab, sylweddolodd fod y preseb wedi ei droi drosodd ac mewn eiliad o wylltineb fe dreiddiodd ei gleddyf i galon Gelert ac ar yr un adeg â hyn fe glywodd gri dawel yn dod o oddi dan y preseb ac wrth iddo godi’r preseb dyna lle oedd ei fab heb fath o niwed a’r blaidd yn gelain wrth ochr y plentyn.
EMMA KOLANO-ROGERS: Ac ar ôl iddo sylweddoli ei fod wedi brysio i’r casgliad hollol anghywir, fe gododd y tywysog Gelert, mynd â’i gorff i ymyl tir y castell a’i gladdu, fel bod y gymuned a'r pentrefwyr yn gwybod ei fod yn arwr a dod i dalu teyrnged iddo. Er ei fod yn falch iawn bod ei fab yn ddiogel, y sôn yw na wenodd y Tywysog Llywelyn fyth ar ôl hynny. A dyna yw stori drist Gelert, sy’n rhoi’r enw i’r pentref hwnnw. Mae Beddgelert i fyny yn Eryri, ac os ewch yno, fe allwch weld carreg sydd wedi ei chodi i goffáu bedd Gelert. Es i yna'r haf diwethaf ac fe ddaeth â’r stori yn fyw, gwneud iddi deimlo’n wir.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Rydym bron yn ôl yn y maes parcio, Emma. Rydym wedi mynd heibio’r rhaeadrau swnllyd iawn.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Diolch yn fawr iawn am fynd â fi ar y daith gerdded hon.
EMMA KOLANO-ROGERS: Dyma un newydd imi ac mae wedi bod yn fraint mynd â chi ar y daith a rhoi mwy o wybodaeth i ti am ychydig o lên gwerin Cymru.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Wel, a chael dy hanes di hefyd a sut beth yw bod allan ym myd natur. Dod â chymaint o bleser a sicrwydd i chi, mae’n debyg.
EMMA KOLANO-ROGERS: Natur yw gwrthwenwyn bywyd. Mae’n helpu. Mae bod allan ym myd natur yn helpu i gael gwared ar bryderon penodol o’ch meddwl a rhoi ichi’r man i gael trefn ar eich meddyliau a chreu cynllun gweithredu am yr hyn yr hoffech ei gyflawni yn eich bywyd a sut i wneud hynny.
CLAIRE HICKINBOTHAM: Diolch am wrando ar Nature Fix. Byddwn yn ôl mis nesaf gyda phennod newydd. Beth am ein dilyn ni ar eich hoff ap podlediad? Ac os oes gennych amser i’w sbario, rhowch adolygiad i ni. Hwyl am y tro.
We recommend upgrading to the latest Chrome, Firefox, Safari, or Edge.
Please check your internet connection and refresh the page. You might also try disabling any ad blockers.
You can visit our support center if you're having problems.