Dringwyr Eryri | Stori am rew a blodau
===
[00:00:00] Rosie: Mae Straeon Gwyllt wedi’i noddi gan Cotswold Outdoor. Pan fyddwn ni allan yng nghanol yr elfennau, rydyn ni yn ein helfen ac mae’r arbenigwyr ar nwyddau i’r awyr iach, Cotswold Outdoor yn helpu rhagor ohonom i fynd allan gyda’r cit iawn. Diolch i’w cefnogaeth nhw, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn helpu cymunedau o gerddwyr i fwynhau mannau yn yr awyr iach, ac rydyn ni’n gweithio i drwsio 15,000 o gilometrau o lwybrau erbyn 2030 i bawb gael eu mwynhau.
[00:00:29] Bydd yn dy elfen gyda Cotswold Outdoor.
[00:00:35] Barbara: Mae hwn i weld mor eiddil. Mae’n edrych fel petai’r chwa leiaf o wynt yn ei gario ymaith, ond mae yn rhai o’r cynefinoedd mwyaf garw y gallwch eu dychmygu, ac yn syml iawn, mae’n goroesi. Ydy wir. Ac mae’n debyg fy mod i’n teimlo rhyw fath o berthynas ag o. Dyna fo, yn cydio yn y clogwyni, yn gwneud ei stwff, a phryd bynnag y bydda i’n mynd i wneud fy arolwg, dw i’n cael sgwrs fach hefo fo.
[00:00:58] Mae’n beth da fy mod i ar fy mhen fy hun. Mae bron fel petai’n ysgwyd llaw, yn dweud Helo. Sut wyt ti heddiw? Dw i ddim wedi dy weld di ers tro.
[00:01:08] Rosie: Mae mynyddoedd Gogledd Cymru fel Mecca ar gyfer camp a fyddai’n gwneud i’r pengliniau cryfaf grynu. Ond wrth i’n gaeafau fynd yn gynhesach a’r pridd islaw hefyd, mae’r rhew mewn perygl. Sut gall dringwyr a chadwraeth weithio gyda’i gilydd i achub un o flodau prinnaf gwledydd Prydain? Y Warden Rosie Holsworth ydw i.
[00:01:28] Croeso i Straeon Gwyllt, Dringwyr Eryri.
[00:01:40] Barbara: Pan oeddwn i’n ferch fach, roeddwn i wastad eisiau bod yn ddawnswraig ballet a doedd fy nhad ddim yn gadael i fi fod, ac roeddwn i’n torri fy nghalon. Felly efallai, efallai fy mod i’n dawnsio ballet ar y creigiau. Wrth fy modd â’r symudiadau ar y graig. Y perygl sydd i’w deimlo, y llefydd mae’n mynd â chi iddyn nhw, yr ymarfer corff, y bobl. Yr holl beth, a dweud y gwir.
[00:02:00] Ac wedyn mi wnes i gyfarfod rhywun sy'n gwirioni cymaint â fi ar fynydda, ac rydyn ni wedi dal ati ers hynny.
[00:02:07] Rosie: Dyma Barbara Jones hefo’r gwallt gwyn fel yr eira, sy’n prancio i fyny’r mynydd fel petai’n rhan ohoni. Ecolegydd ydy Barbara, wedi ymddeol erbyn hyn, ond yn dal i ymroi i’r mynyddoedd a’r planhigion sy’n ymgartrefu yno.
[00:02:21] Rydyn ni’n dringo llethrau serth Cwm Idwal. Mae aer y mynydd yn oerleisio ar draws y llyn sy’n gorwedd ar waelod y creigiau geirwon hyn. I Barbara Hill, mae cerdded a dringo wedi’u clymu’n un â’r planhigion sy’n tyfu ar y clogwyni mawreddog yma.
[00:02:37] Barbara: Sut des i i mewn i fyd botaneg? Yn syml iawn, dw i’n meddwl, cerdded ar y bryniau ac wrth gerdded, gweld rhywbeth a meddwl, w, beth ydy hwnna?
[00:02:44] Daeth y planhigion yn rhan o’r ffordd o fyw rywsut, y sgrafangu, y dringo. Rydych chi’n gweld yr holl blanhigion yma nad oes llawer o bobl yn eu gweld.
[00:02:54] Rosie: Mae Cwm Idwal yn rhywle lle gall y mynyddoedd ddarllen amser, mae daearegwyr wrth eu bodd â’r lle ac mae ei greigiau geirwon yn darparu cynefin hollbwysig.
[00:03:08] Barbara: Yr hollt yng nghanol y cylch o glogwyni ydy’r Twll Du, sydd wedi’i alw’n Devil’s Kitchen gan rai. Oherwydd mewn tywydd gwael, mae’r niwl yn codi o’r twll a byddai pobl yn dweud bod y diafol yn byw yno. Dyna pam cafodd yr enw Devil’s Kitchen, a dyna ganol yr hollt ac yn y fan honno yn yr hollt a’r holl greigiau sydd wedi disgyn ohoni,
[00:03:28] dyna lle mae’r rhan fwyaf o’r planhigion pwysig.
[00:03:31] Rosie: Symudodd Barbara i Gymru ar ôl bod yn y brifysgol a datblygodd fwy a mwy o ddiddordeb yn y planhigion bychain a welai wrth grwydro. Ond roedd un planhigyn arbennig wnaeth gydio yn nychymyg Barbara. Cafodd gip arno am y tro cyntaf 30 mlynedd yn ôl, pan aeth mentor â hi i gerdded tra roedd hi’n gwirfoddoli gyda’r elusen Cawraeth Natur.
[00:03:52] Barbara: Mae pawb eisiau gweld Lili’r Wyddfa, mae’n blanhigyn mor eiconig. A dw i’n cofio sefyll yno’n siarad ag o ac roedd fy llaw ar graig, ac roedden ni’n sgwrsio ac mi ddywedodd, ‘rwyt ti eisiau gweld Lili’r Wyddfa, on’d wyt ti?’ Mi ddwedais i y byddwn i wrth fy modd. Ac wedyn mi ddywedodd... Roedd yno wrth fy ymyl ac o, dw i’n cofio’r union fan.
[00:04:11] Mae’r peth i weld mor eiddil. Mae’n fwlb bach. Mae ganddo ddwy ddeilen a choesyn main iawn a blodyn bach gwyn ar ei ben. Mae’n edrych fel petai’r chwa leiaf o wynt yn ei gario ymaith. Ond mae yn rhai o’r cynefinoedd mwyaf garw y gallwch eu dychmygu, ac yn syml iawn, mae’n goroesi. Ydy wir.
[00:04:28] Ac mae’n debyg fy mod i’n teimlo rhyw fath o berthynas ag o. Dyna fo, yn cydio yn y clogwyni, yn gwneud ei stwff.
[00:04:36] Rosie: Dywedwyd wrth Barbara bod Lili’r Wyddfa yn blanhigyn amhosibl i’w astudio, ond o’i phrofiad fel dringwr, mi welodd nad oedd hynny’n wir.
[00:04:47] Barbara: Roedden ni i fod i ddiogelu Lili’r Wyddfa, ond doedd ganddon ni ddim clem a oedd y niferoedd yn cynyddu.
[00:04:54] Oedden nhw’n dirywio? A oedd ar fin mynd i ddifancoll? Doedd ganddon ni ddim syniad o gwbl oherwydd ei bod mor anodd mynd ato. Felly dyma fi’n meddwl, iawn, gallwn i wneud hynny. Y cyfan sydd ei angen ydy rhaff, ym, a gallu abseilio i lawr i edrych ar y planhigyn.
[00:05:11] Dw i’n mynd i ben y clogwyn, yn rhoi’r rhaff yn sownd, ac yna’n abseilio i lawr y rhaff. Ac mae gen i offer arbennig sy’n caniatáu i fi aros a thynnu y nwylo oddi ar y rhaff fel fy mod i’n gwbl rhydd. Mae gen i tua 20 o is-safleoedd, a bydda i’n aros ym mhob un. Bydda i’n cyfrif nifer y planhigion yno, ym, y nifer sy’n blodeuo, ac wedyn bydda i’n dod yn ôl yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
[00:05:29] Cyfri’r nifer sydd wedi gosod had.
[00:05:35] Rosie: Felly mae Barbara wedi treulio 25 mlynedd yn siglo o ymyl clogwyn, â rhaff yn ei dal, ac yn cyfri’r blodau bychain yma. Dros gyfnod, mae hi wedi crynhoi set o ddata sy’n rhoi gwybod i ni am heriau’r planhigyn arctig, alpaidd hwn sy’n siglo yn y gwynt.
[00:05:53] Barbara: Ac o edrych ar y graff 25-mlynedd yna, dw i’n meddwl bod y duedd yn gyson yn mynd ar i lawr. Ond wedyn dw i’n meddwl yn fwy gobeithiol, dw i wedi bod yn edrych arnyn nhw am 25 mlynedd. Maen nhw yma ers bron i 10,000 o flynyddoedd, neno’r tad. Felly os... a buon nhw fyw trwy Gyfnod yr Iwerydd, sef cyfnod cynnes, gwlyb, tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl.
[00:06:14] Ym, mi lwyddon nhw i fyw trwy hynny. Felly, wyddoch chi... Efallai eu bod yn llwyddo i fyw trwy hyn hefyd, ac na ddylen ni fod yn edrych ar gyfnodau dynol o 25 mlynedd. Mewn gwirionedd, dim ond piso dryw bach yn y môr ydy hynny. Mae angen i ni wneud hyn dros dymor hir. Dw i ddim yn meddwl y galla i ddal ati am 10,000 o flynyddoedd, ond mae’n ddechrau, tydi?
[00:06:33] Rosie: Eryri ydy’r unig le yn y Deyrnas Unedig lle gwelwch chi Lili’r Wyddfa. Mae hanes rhewlifoedd ynghlwm yn y blodyn bach gwyn yma. Wrth i’r rhew gilio, mi ddilynodd y planhigion mewn mannau eraill yn y byd. Mae’n gyffredin yn y rhan fwyaf o wledydd. Mae’n cael ei alw’n Lili Alpaidd, a thrwy gymharu’r mannau lle bu’n gyffredin, dysgodd Barbara lawer iawn am ei esblygiad, y posibiliadau ar gyfer twf a’r bygythiadau iddo.
[00:07:02] Barbara: Beth ddangosodd hynny ydy ein bod ar ymyl pellaf ei wasgariad. Dydyn ni ddim mewn cynefin delfrydol, ond hei, mae’n dal yma ac mae’n cynhyrchu blodau. Mae’n cynhyrchu hadau, a’r hyn sy’n bwysicach ydy bod yr hadau hynny’n hyfyw. Felly mae modd i chi ddysgu pob math o bethau drwy gyfri’r planhigion, y blodau, yr hadau sy’n cydio, edrych ar y geneteg, ac mi gewch chi syniad cyflawn o hanes y planhigyn yma, o ble y daeth o, ers pryd mae o yma, ym, beth mae o’n debygol o’i wneud yn y dyfodol.
[00:07:30] Ond wrth gwrs, mae’r anghenfil mawr yn yr ystafell, sef newid hinsawdd, ac a fydd yn gallu goroesi hynny.
[00:07:35] Rosie: Y perygl mwyaf i Lili’r Wyddfa, ar ôl defaid o bosib, ydy'r newid yn yr hinsawdd, heb os. Ond mae yna rywbeth arall ar y creigiau geirwon yna sy’n wynebu anawsterau wrth i’r gaeafau fynd yn gynhesach, rhywbeth sy’n gwneud y defnydd gorau o’r mannau oer, tywyll, anial.
[00:07:53] Tom: Mae’n gyfrwng go arswydus i fod yn dringo arno. Wel, pan ewch chi i ddringo creigiau, mae rhai o’r creigiau yma’n 450 miliwn mlwydd oed, ond mae rhew yn mynd ac yn dod mewn diwrnod.
[00:08:01] Rosie: Dringwyr rhew!
[00:08:04] Tom: Y peth anhygoel am ddringo’n y gaeaf ydy eich bod yn cael antur mor anhygoel. Gallwch chi adael y maes parcio ac ymhen 10 munud, byddwch chi mewn amodau hollol wyn, ac mae’r golygfeydd yn anhygoel.
[00:08:13] Mae’r ffurfiau naturiol harddaf y gallwch chi eu dychmygu yno, a chithau’n cael mynd mor agos atyn nhw a chael dringo’r pethau yma. Mae un o’r profiadau gorau yma yng nghefn Cwm Idwal. Roedden ni mewn lwc ar y diwrnod cyntaf erioed gawson ni i fyny yma bod yr amodau ar gyfer dringo gaeaf gyda’r gorau y gallech chi ofyn amdanynt.
[00:08:32] Roedd popeth yn edrych yn brydferth, yn rhew i gyd. Roeddech chi’n dod i fyny i gefn y cwm ac roedd fel dod i barc chwarae enfawr. Roedd y dringo’n arallfydol ac roedd pawb yn cael amser gwych i fyny yma.
[00:08:42] Rosie: Dyma Tom Carrick, Swyddog Mynediad a Chadwraeth Cyngor Mynydda Prydain yng Nghymru.
[00:08:49] Mae o hefyd yn ddringwr rhew. Rydyn ni’n eistedd yn edrych ar gefn y Cwm gan syllu i fyny ar y wynebau serth y creigiau. Dydy hi ddim digon oer i rew ffurfio a gallwch chi glywed rhaeadrau’r mynydd yn y cefndir. Felly dyma Tom yn estyn am ei arweinlyfr dringo ac yn dangos ffoto o’r mynydd yn sgleinio’n wyn gyda thalpiau rhew miniog yn rhaeadru o ben y clogwyn.
[00:09:13] Tom: Dyma sut mae’n gallu edrych oherwydd, welwch chi’r prif raeadr sy’n ffurfio un o’r dringfeydd enwocaf fwy na thebyg draw yn y cefn acw. Hwnna ydy pendics y diafol. Mae’n creu’r ffurf anhygoel yma fel siandelïer sy’n dod i lawr, ac mae’n un o’r gwreiddiau yna y gwelwch chi’n ffurfio. Mae’n ffurfio oherwydd bod gennych chi ddiferion mân yn dod dros yr ymyl ac maen nhw’n ffurfio, maen nhw’n rhewi ar y gwaelod, ac mae rhagor o ddiferion yn dod eto ac eto.
[00:09:36] Yn y pen draw, mae hynny’n tyfu drwy’r amodau oer hynny i ddringfa rew fawr fertigol. Ac mae pawb yn aros iddo gysylltu. Ac wedyn unwaith y bydd yn cysylltu, mae si yn mynd ar led yn yr ardal gyda phawb yn sôn bod y pendics sydd ffurfio, beth am i ni fynd i’w ddringo? Dw i’n meddwl ei fod oddeutu 50, 60 metr o dringo rhew fertigol di-dor pan fydd wedi ffurfio'n llawn, ond mae’n un o’r rhai twyllodrus ofnadwy yna a allai fod yn hynod beryglus os na fydd wedi ffurfio’n iawn.
[00:10:01] Rosie: Felly, cwestiwn y dydd. Sut ydych chi’n dringo rhaeadr 60 metr o rew mewn byd sy’n dadmer?
[00:10:09] Tom: Wel fel arfer mae gynnoch chi esgidiau mawr B tri neu B dau ar eich traed, wedyn gosod eich cramponau arnyn nhw, ac wedyn yn eich dwylo, yn ogystal â menig cynnes iawn, ym, mae gennych chi fwyeill iâ.
[00:10:21] Mae angen iddyn nhw fod yn ddigon ysgafn i chi fedru eu cario nhw a bod yn gyfforddus hefo nhw, ond yn ddigon trwm fel bod tipyn o bwysau ar y pen sydd yn palu eich bwyeill iâ i mewn i’r eira ei hun. Ac wedyn os nad ydy hynny wedi ei lleoli yn berffaith neu os nad ydy hi wedi rhewi digon... Fel arfer byddwch chi’n cael y swn clepian neis yma...
[00:10:38] ..pan fydd yr amodau’n iawn, ond mi gewch chi fwy o swn cerfio neu ryw fath o swn rhwygo braidd pan nad ydy pethau wedi rhewi’n ddigonol. Ambell i beth ychwanegol fyddai gennych chi ar eich harnes, byddech chi’n cario sgriwiau iâ. Dychmygwch rywbeth fel sgriw 10 i 15 centimetr y byddech chi’n ei throi i mewn i’r rhew.
[00:10:55] Dyna beth byddwch chi’n clipio eich hun arno, ac os byddwch chi’n disgyn, byddwch chi’n dibynnu ar y sgriw yna i aros yn ei lle ac ar y rhew i beidio â thorri. Yn ddelfrydol, pan fyddwch chi’n mynd i ddringo ar rew, mae disgyn yn tueddu i fod yn eithaf gwael. Rydych chi’n ceisio osgoi hynny ac mae gennych chi lawer o bethau miniog arnoch chi, ac yn gyffredinol hefo dringo’n y gaeaf, mae’n reit anodd cael gafael ar offer da.
[00:11:15] Felly dyna’r dull diogelu rydych chi’n ei roi yn y graig. I’ch atal chi rhag cael cwympiadau mawr. Mae’n anodd ac os byddwch chi’n disgyn ar ddringfa yn y gaeaf, gallech chi fod yn mynd yn go bell. Mae cymaint i’w gymryd i mewn ac i geisio ei ddeall pan fyddwch chi’n mynd i ddringo yn y gaeaf er mwyn ceisio gwneud y penderfyniadau gorau y gallwch chi.
[00:11:32] Rosie: Felly, rydych chi’n taro eich bwyell iâ i mewn, yn plannu eich crampons yn y rhew. Mae dringo rhew yn gamp sy’n gallu bod yn beryglus ar yr adegau gorau, ond mae Barbara wedi gweld y mynyddoedd yma’n newid, ac mi sylwodd hi ar broblem.
[00:11:48] Barbara: Pan oedden ni’n cael gaeafau iawn, ym, roedden ni’n cael gaeafau arbennig o dda lle roeddech chi’n cael llawer o rew yn crynhoi, llawer o eira, ac roedd yna lawer o ddringwyr o gwmpas.
[00:11:57] Ac os oes gennych chi drwch da o eira a rhew, wedyn mae pobl yn gallu dringo hwnnw a dydyn nhw ddim yn cael effaith ar yr hyn sy’n tyfu oddi tano. Dechreuais i boeni ychydig pan oeddwn i’n gweld pobl yn dringo pan nad oedd ganddon ni drwch o eira a rhew. Meddyliais i, wel, os ydy’r crampons neu’r bwyeill iâ yn mynd trwy hwnna, gallen nhw ddechrau cael effaith ar y planhigion a’r mannau lle maen nhw’n dringo ydy’r mannau sy’n bwysig...
[00:12:19] yn fotanegol fel arfer, oherwydd eu bod yn wynebu tua'r gogledd, maen nhw’n oer, maen nhw’n wlyb, a dyna’n union sydd ei angen arnoch chi ar gyfer dringo ar rew, oherwydd y bydd y rhew yn crynhoi yno. Felly mae posibilrwydd o gael effaith fawr.
[00:12:30] Tom: Ac felly os edrychwn ni i fyny ar y clogwyni ar yr ochr chwith, lle mae’r Twll Du ei hun, mi fedrwch chi weld y rhigolau mwy gwyrdd.
[00:12:37] Ac mae’r rheina’n dechrau dod i mewn i’r llwybr mewn ffordd. Mi fedrwch chi weld yr holl wair a gwyrddni sydd yno ar hyn o bryd. Ac mae’r rheiny yn rhan o’r llwybr allweddol y byddech chi’n meddwl, reit, mae angen i’r pridd fod wedi rhewi’n dda ar gyfer hynny. Achos, wel, os byddwch chi’n dringo hwnna nawr ac os rhowch chi fwyell iâ i mewn iddo, mae’n mynd i rwygo’n syth drwy’r pridd.
[00:12:56] Rosie: Felly dyma wraidd y broblem. Mae’r gaeafau cynhesach yn golygu bod dringo ar rew yn llai diogel i bobl ac i blanhigion. Y gwir amdani wrth ddringo ar rew ydy nad ydych chi’n gwybod beth sy’n digwydd o dan yr wyneb. Mae rhywbeth sy’n edrych fel petai wedi rhewi o 30 metr islaw yn edrych yn wahanol pan fyddwch chi’n agos. Ond i Barbara, Tom, a phawb arall sy’n gweithio ar y mynyddoedd, maen nhw’n gwybod pa mor bwysig ydy’r campau hyn i bobl.
[00:13:19] Barbara: Felly bues i’n siarad â phobl ac mi drefnon ni i gael synwyryddion wedi’u gosod i fyny yma yn yng Ngwm Idwal, a’r syniad oedd y byddech chi’n medru cael gwybodaeth am y tymheredd ar yr wyneb ac o dan yr wyneb, a byddai modd rhoi'r wybodaeth yma ar wefan y BMC. Felly petai rhywun sy’n eistedd yn Birmingham neu Lundain yn meddwl, reit, dw i eisiau mynd i ddringo ar rew yng ngogledd Cymru dros y Sul.
[00:13:46] Sut mae’r tymheredd? Bydden nhw’n edrych ar y graffiau yma ac yn meddwl, hmm, mae hi braidd yn gynnes. Dydy hi ddim wedi rhewi, felly efallai nad ydy hynny’n syniad da.
[00:13:54] Tom: Ie. Felly gosod set i mewn, mae’r ddau gyntaf, rydyn ni yng nghefn Cwm Idwal ar hyn o bryd, felly mae ganddon ni un synhwyrydd i mewn yma. Mae hwn ar tua 650 metr. Ym, mae ganddon ni un yng Nghwm Cneifion, sydd dipyn o ffordd draw tua’r chwith i fyny mewn cwm uwch, felly mae hwnnw dan ardal ddringo gaeaf arall o’r enw Clogwyn Du.
[00:14:11] Mae hwnnw 850 metr i fyny. Ac wedyn mae ganddon ni un draw ar Glogwyn y Garnedd, sydd ar yr Wyddfa, ac mae hwnnw tua 850 metr i fyny hefyd. Ac mae ar waelod Clogwyn y Garnedd. Felly rydyn ni wedi dewis y tri lleoliad yma gan mai dyma’r tair ardal fwyaf poblogaidd i fynd i ddringo.
[00:14:30] Ac maen nhw’n syml iawn, iawn. Blwch sydd yna gydag antena yn dod allan o’r pen uchaf. Mae ganddo synhwyrydd tymheredd yr aer amgylchynol hefyd. Felly mae rhywbeth fel côn ar ei ben. A dyna sy’n rhoi tymheredd yr aer i ni. Ac wedyn mae tair gwifren sy’n mynd i mewn i’r tir.
[00:14:44] Un yn mynd i lawr i bump, un yn mynd i lawr i ddeg, ac un yn mynd i lawr i dri deg. Felly pump yn fras ydy’r dyfnder y bydd eich cramponau yn mynd i mewn, deg neu bymtheg centimetr yn fras ydy lle bydd pigyn eich bwyell iâ yn cyrraedd. Ac wedyn, y tri deg, dim ond i gael gwybod o ran diddordeb pa mor ddwfn mae’r pridd yn rhewi.
[00:15:04] Y peth arall gwych am hyn ydy, o’r ddau safle sydd ganddon ni yma, mae ganddon ni 12 mlynedd o ddata newid hinsawdd o synwyryddion tymheredd y pridd, a byddwn ni’n rhannu hyn yn aml, boed hynny hefo Prifysgol Bangor neu grwpiau o golegau lleol, ac os ydyn nhw eisiau edrych ar batrymau cyfnewidiol ein gaeafau neu’r tymheredd, mae’n adnodd iddyn nhw.
[00:15:23] Nid i ddringwyr yn unig.
[00:15:25] Rosie: Mae’r synwyryddion yn golygu bod dringwyr rhew yn medru cael golwg ar yr amodau ar eu ffôn heb hyd yn oed adael y ty. Ac eto wedyn wrth droed y mynydd. Yn ogystal â'i gwneud hi’n llawer mwy diogel i bobl ddringo yn yr amodau iawn, mae hyn wedi bod o fantais yn annisgwyl i blanhigyn gwerthfawr Lili’r Wyddfa hefyd.
[00:15:41] Barbara: Ac mae’r sgwrsio rhwng y dringwyr nawr wedi gweithio’n arbennig o dda. Mae pobl yn dechrau talu sylw o ddifrif. Ac roedd rhaid i hyn ddigwydd oherwydd pan oeddwn i’n gweithio mewn cadwraeth, roedd rhai o’r bobl oedd yn gweithio hefo fi’n dweud, reit, mae rhaid i ni ddod â’r dringo yma i ben. Wyddoch chi, mae’n amlwg yn mynd i effeithio ar y planhigion.
[00:15:59] Rydych chi’n dweud, wel, arhoswch funud, wyddoch chi, mae’n rhywbeth pwysig i rai pobl. Gadewch i ni weld beth gallwn ni ei wneud. Ac mae’r hyn wnaethon ni wedi bod yn wych.
[00:16:08] Rosie: Hyd yn oed hefo’r synwyryddion, mae Tom yn dweud wrtha i bod angen i chi gymryd gofal ar bob cam wrth i ddringwyr ymgiprys ag amodau gwaeth, ac felly hefyd Lili’r Wyddfa.
[00:16:19] Tom: Does yna ddim byd gwell na dringo yn y gaeaf. Mae’n beth mor gyfareddol i’w wneud. Ond hamddena ydy dod yma a dringo. Nid rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei wneud.
[00:16:27] Ac i lawer o’r planhigion sy’n byw yn y lleoliadau yma, i blanhigion neu anifeiliaid, dyma ydy’r unig lefydd sydd ganddyn nhw i fyw, a dyma eu cartref. Ac mae’n rhaid i ni barchu’r llefydd hynny a’r planhigion a’r anifeiliaid hynny gymaint ag y gallwn ni oherwydd dydyn nhw ddim yn medru symud i unman. Ac mewn gwirionedd, mae’r lleoliadau sydd ganddyn nhw i fyw yn mynd yn llai ac yn llai.
[00:16:47] Hefo newid yn yr hinsawdd, yn arbennig, yn gwthio’r planhigion arctig, alpaidd i fyny tua’r copaon ac yn y pen draw, i ddifancoll. Ac mae hynny’n ofnadwy o drist. Dw i’n meddwl ar y llaw arall serch hynny, os na fyddwn ni’n cael cysylltiad â’r llefydd yma a’r cyfle i fynd i gael profiad o fyd natur, yna byddwn ni’n anghofio pam ei fod o bwys i ni.
[00:17:02] Dw i’n cael yr holl gyfleoedd yma i weithio hefo’r bobl anhygoel yma fel Barbara Jones, ac wedyn rydych chi’n dysgu mwy a mwy, ac wedyn rydych chi’n cymryd mwy a mwy o ddiddordeb. Ac mae’n eithaf tebyg i’r mathau o resymau anturus pam rydyn ni eisiau mynd i ddringo. Mae’r awydd a’r ysfa yma am wybodaeth ganddoch chi, tydi? Eich bod chi eisiau mynd i ddysgu mwy am y pethau yma wrth i chi ddod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw.
[00:17:23] Rosie: Felly mae’r synwyryddion wedi bod yn llwyddiant sydd wedi’i werthfawrogi gan fotanegwyr a dringwyr fel ei gilydd. Ond pa fath o ddyfodol sy’n wynebu un o flodau mwyaf prin a mwyaf hynafol y Deyrnas Unedig gydag anghenfil mawr yr argyfwng hinsawdd yn dal i fod ger ein bron.
[00:17:42] Barbara: Mae llawer o’r planhigion hyn yn tyfu ar glogwyni serth sy’n wynebu tua’r gogledd, felly mae hynny’n lleddfu rhywfaint ar newid yn yr hinsawdd, ac mae gan rai ohonyn nhw’r gallu i addasu. Felly dw i’n gobeithio, os gwnawn ni lwyddo i gael poblogaethau mwy, y byddan nhw’n gallu dal eu tir. Efallai y bydd rhaid i ni dderbyn ein bod ni’n mynd i golli rhai o’r pethau yma, ond wnawn ni mo hynny heb frwydro’n lew.
[00:18:02] Dw i ddim eisiau meddwl am bethau felly ar hyn o bryd gan mai’r hyn rydyn ni’n ceisio’i wneud ydy diogelu’r hyn sydd ganddon ni yma. A’r camau cyntaf gymeron ni yma yng Nghwm Idwal, ryw ugain mlynedd yn ôl, oedd leihau’r pori’n sylweddol fel bod gan y planhigion ychydig mwy o le i symud.
[00:18:18] Ac mae’n gweithio draw acw yng nghefn y Cwm. Ym, rydych chi eisoes yn gweld llawer o dormeini yn tyfu ar y llethrau, ond gan fod y planhigion hyn yn tyfu mor araf ac mewn poblogaethau mor fach, mae’n cymryd tipyn o amser iddyn nhw ddod oddi ar y clogwyni. Felly, wyddoch chi, fedrwn ni ddim disgwyl rhyw lawer am tua hanner can mlynedd.
[00:18:38] Felly croesi bysedd, a gobeithio na fydd yr hinsawdd yn newid cymaint â hynny. Ond maen nhw’n brwydro.
[00:18:57] Rosie: Diolch am wrando ar y bennod hon o Straeon Gwyllt. I gael clywed mwy am gasgliad rhyfeddol o blanhigion alpaidd gan Barbara, ewch draw i’n cyfrif Instagram @wildtalesnt. I gael gweld y synwyryddion tymheredd yng Nghwm Idwal, neu i gael gwybod mwy am y gwaith ar y cyd rhwng dringo a chadwraeth, ewch i wefan y BMC.
[00:19:24] Mae Straeon Gwyllt wedi’i noddi gan Cotswold Outdoor, eich gwerthwr nwyddau awyr agored a’ch tywyswyr glew tuag at antur, mannau i orffwys, teithiau cerdded i dawelu’r enaid, neu i gael y galon i guro. Rydyn ni’n teimlo’n well pan fyddwn ni’n cael mynd allan mwy. Dewch i gael cit o ansawdd a 50 mlynedd o brofiad doeth am yr awyr iach ac mae cefnogwyr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael 15% o ostyngiad ar offer cerdded yn y siopau ac ar-lein.
[00:19:48] Teimlwch eich bod yn eich elfen yng nghanol yr elfennau yn Cotswold Outdoor.
We recommend upgrading to the latest Chrome, Firefox, Safari, or Edge.
Please check your internet connection and refresh the page. You might also try disabling any ad blockers.
You can visit our support center if you're having problems.