Trawsgrifiad Wild Tales Operation Nutcracker | Y Wiwer Goch yn Dychwelyd [00:00:02] Rosie: Mae 'na rywbeth yn symud yn y dŵr. Aderyn ydy o? Pysgodyn ydy o? Na, gwiwer ydy o! [00:00:19[ Carol: Felly, mae gwiwerod yn gallu nofio. Mae hynny wastad yn synnu pobl. [00:00:24] Rosie: Ac weithiau maent yn croesi cyrff mawr o ddŵr fel y Fenai yng Nghymru. A dyna lle mae’r problemau'n dechrau. [00:00:42] Rosie: Ar Ynys Môn, yng ngogledd Cymru, mae gwaith ar droed i amddiffyn un o’r mamaliaid sydd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain, y wiwer goch, rhag difodiant a bygythiad cynyddol y wiwer lwyd, perygl a all gyrraedd ar y môr hyd yn oed. Mae cadw’r boblogaeth fechan hon o wiwerod yn ddiogel yn gêm ddyfeisgar gyda llawer yn y fantol. Rosie Holdsworth ydw i ac rydych yn gwrando ar Wild Tales, Operation Nutcracker, Y Wiwer Goch yn Dychwelyd. [00:01:18] Rosie: Dwi'n siŵr eich bod wedi gweld gwiwer o’r blaen. Lawr y ffordd, mewn parc, neu’n gwibio i fyny polyn telegraff. Mae’n debygol mai gwiwer lwyd oedd hi. Cawsant eu cyflwyno i’r DU ar ddiwedd y 1800au, a bellach mae miliynau ohonynt. Un na welwch mohoni mor aml yw’r wiwer goch. Dyma ein rhywogaeth frodorol, ac mae wedi bod yma ers miloedd o flynyddoedd. Ond erbyn hyn mae’n un o’r mamaliaid sydd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain, a dim ond mewn ychydig leoedd mae’n parhau i oroesi. Un o’r lleoedd hynny yw Ynys Môn, yng ngogledd Cymru. Yn gymharol ddiweddar, dim ond 40 o wiwerod coch oedd ar ôl yma. Heddiw, rydym am fynd i Blas Newydd, lle mae ceidwaid yn cynnal teithiau cerdded gwiwer goch yn ddyddiol, gan roi cyfle i ymwelwyr gael cipolwg ar wiwer goch mewn man lle maent yn dychwelyd. [00:02:24] Carol: Helô, Carol ydw i. Dw'i wedi bod yn gwirfoddoli fel ceidwad gwiwerod yma ers iddo ddechrau, tua 7 mlynedd yn ôl mae’n debyg. Oes, mae gen i ddiddordeb mewn anifeiliaid a gofalu amdanyn nhw erioed. Felly, roedd y cyfle i ddod i weithio fel ceidwad yma i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfle rhy dda i’w wrthod. [00:02:43] Rosie: Yma ym Mhlas Newydd, mae Carol yn paratoi i gychwyn allan. [00:02:46] Carol: Da ni'n cynnal 2 daith gerdded y dydd, gan roi cefndir ein gwiwerod i bobl, trio gwneud pobl yn frwdfrydig dros y gwiwerod coch a pham ei bod yn bwysig i’w diogelu. [00:02:55] Rosie: Mae Carol yn gyfarwydd iawn â’r coedwigoedd hyn. [00:02:58] Carol: Felly, dyma lle dwi'n dechrau'r daith. Byddaf yn casglu pobl at ei gilydd yma, yn cael cyflwyniad byr ac yna da ni'n dechrau cerdded y ffordd hyn. [00:03:04] Rosie: Mae’n gyfle iddi sicrhau bod yr ymwelwyr yn edrych i’r cyfeiriad cywir. [00:03:11] Carol: Pan maent yn chwilio am wiwerod, maent yn cerdded o gwmpas fel hyn. [00:03:14] Rosie: Gyda’u pennau wedi’u codi tuag at yr awyr. [00:03:17] Carol: Ac felly da chi jest am fynd ar eich pen i goeden neu faglu. [00:03:19] Rosie: Felly yn hytrach... [00:03:20] Carol: Byddaf yn cerdded am 'chydig ac yna’n aros a byddwn yn cael sgwrs. A thra'r ydym yn aros, dyna pryd y gallant chwilio am wiwerod. [00:03:25] Rosie: Ac wrth i Carol gychwyn, dydy o ddim yn rhy bell cyn iddi gyrraedd y man aros cyntaf. [00:03:32] Carol: Dyma Goed y Llaethdy. Da ni yng Nghoed y Llaethdy, sy’n goetir cymysg hyfryd. Mae gennym ganopi hardd uwch ein pennau a da ni'n ffodus heddiw bod yr haul allan ac mai ychydig iawn o wynt sydd yma, felly dydy'r coed ddim yn symud, sy'n fantais fawr pan da ni'n chwilio am wiwerod. Ond da ni'n reit agos at y lôn yma, ond mae 'na reswm pam dwi'n stopio'n reit agos at y lôn. Oherwydd mae hwn yn goetir hardd, ond mae gennym goetir hardd ar ochr arall y lôn hefyd. Dydyn ni ddim yn cadw ein gwiwerod yma, ac rydym yn ddigon bodlon i’n gwiwerod fynd y ffordd acw, ond mae'n rhaid iddyn nhw groesi'r lôn yna. [00:03:59] Rosie: Pan mae darn o goetir wedi’i rannu’n ddau gan ffordd, caiff ei adnabod fel darniad cynefin. Ac i anifeiliaid sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u bywydau yn y coed, gall dod lawr i’r ddaear fod yn beryglus. [00:04:11] Carol: Ac yn anffodus, rydym yn cael rhai colledion. Felly, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi gosod pont gwiwerod. Dim byd ffansi. 2 bolyn telegraff a rhaff. Dychmygwch wiwerod i fyny yn y fan acw, mae mor hawdd iddyn nhw symud o un goeden i’r llall heb orfod dod lawr ar y llawr. Felly, os gallant aros i fyny fan 'na a dal i allu croesi’r ffordd, mae’n rhoi’r cyfle iddyn nhw...groesi drosodd heb gael eu gwasgu. [00:04:38] Rosie: A gyda chyn lleied o wiwerod coch ar ôl, mae pob croesiad diogel yn bwysig. [00:04:43] Carol: Felly, da ni'n cychwyn ar y llwybr taclus, neis hwn, ond byddwn yn troi i mewn i'r goedwig mewn dipyn. [00:04:49] Rosie: Ac wrth iddi gerdded, mae Carol yn hoffi cadw ei hymwelwyr ar flaenau’u traed. [00:04:53] Carol: Dwi'n dechrau drwy ofyn i bobl, pwy sydd wedi gweld gwiwer goch, ac efallai y bydd hanner y grŵp wedi, ac yna dwi'n gofyn, pwy sydd wedi gweld un lwyd? A byddwch yn clywed y gwahanol ymatebion, o, yn fy ngardd, da chi'n gwbod dydyn nhw ddim yn eu hoffi. Ac yna byddaf yn esbonio, wel, y rheswm am hynny yw bod tua 3 miliwn o wiwerod llwyd a dim ond tua 200,000 o rai coch. A byddaf yn deud, wel, allwch chi ddeud y gwahaniaeth wrthyf rhwng y gwiwerod llwyd a choch. Dw'i am ddangos 2 lun i chi, dudwch chi wrtha i os ydy hi'n wiwer lwyd neu’n wiwer goch. Ac mae’n gwestiwn twyllodrus, oherwydd gwiwer lwyd gyda chôt goch ydy hi. Ac yna mae gen i lun o wiwer goch gyda chôt lwyd. Ac mae’n braf cael dangos y gwahaniaethau, fel y ffaith bod gan y wiwer goch glustiau tuswog, ac mae ymyl cynffon y wiwer lwyd yn wyn. Felly, mae’n braf dangos y lluniau hyn iddyn nhw oherwydd maen nhw i gyd yn dweud, o ie, gwiwer goch ydy honna. Ac yna bydd rhywun yn dweud, o, does ganddi hi ddim clustiau tuswog. Mae wastad rhywun yn sylwi. Felly mae hynny'n ddiddorol i'w ddweud wrth bobl hefyd. 00:05:42 Rosie: Gwahaniaeth arall yw bod y gwiwerod llwyd 25% yn fwy a bron i ddwywaith pwysau’r wiwer goch. Sy’n golygu eu bod yn bwyta llawer mwy o fwyd. Ond sut ddaeth y gwiwerod llwyd yma yn y lle 1af? [00:06:00] Carol: Cawsant eu cyflwyno yn y 1870au, felly mae gynnon ni'r Fictoriaid i ddiolch am hynny. Felly, roedd y bobl oedd yn byw yn y tai mawr bendigedig hyn yn teithio, ac aethant i ogledd America a gwelson nhw'r gwiwerod llwyd hyn, a dyma nhw’n meddwl, o, does gynnon ni ddim o’r rhain adref, dim ond rhai bach coch sydd gynnon ni. Mi ddof â rhai’n ôl i ddangos i fy ffrindiau pa mor bell dw'i wedi teithio. Ac felly, dyna wnaethon nhw, ond mewn ychydig cawsant lond bol arnynt a’u rhyddhau i’w parcdiroedd. Ac o hynny ymlaen, fel mae gwiwerod yn ei wneud, maen nhw'n atgenhedlu ac yn lluosogi. Dechreuon ni weld dirywiad yn nifer y gwiwerod coch, oherwydd bryd hynny roedd gennym tua 3 miliwn o wiwerod coch yn y wlad hon, ac erbyn hyn mae’n gwbl groes, mae gennym 3 miliwn o wiwerod llwyd. [00:06:36] Rosie: Felly yma ym Mhlas Newydd, da ni'n brysur yn ceisio cadw’r gwiwerod coch yn ffynnu. [00:06:41] Carol: Da ni am fynd i mewn i'r fan yma rwan. [00:06:43] Carol: Mae un o’n bwydwyr i fyny fan 'na, a hefyd mae gennym y boncyff yma, a dw'i am roi ychydig o fwyd arno. Felly, dwi'n rhoi’r bwyd arno, hadau blodau haul. A da ni'n eu gosod yn gyfan efo'r plisgyn allanol du arnyn nhw. Mae ein gwiwerod, pan maen nhw'n bwyta’r hadau hyn, os byddwn yn ddigon ffodus nes ymlaen i gael gwiwer yn eistedd ar y boncyff hwn, bydd yn pigo pob un i fyny gyda’i bawennau ac yna'n ei frathu a’i hollti ac yna'n gadael y plisgyn ar ôl. Felly, dyma fwydwr gwiwerod na all adar gael ato. Mae gan y rhan fwyaf o bobl yn y wlad fwydwyr adar na all gwiwerod gael atynt. Ond da ni'r ffordd arall rownd. Felly, mae ein gwiwer yn dod, yn eistedd ar fan 'na, ac yna mae’n gorfod codi’r caead er mwyn cyrraedd y bwyd. Ni all yr adar gael ato, ond gall ein gwiwerod. [00:07:30] Rosie: Ac nid hadau blodau haul yw’r unig bethau mae’r gwiwerod yn eu hoffi. [00:07:35] Carol: Moch coed, mae ein cariadon bach ni wrth eu boddau'n tynnu’r hadau allan o’r moch coed. Bydd ein gwiwerod yn eu troi drosodd ac yn tynnu’r dail bach i ffwrdd er mwyn cyrraedd yr hadau sydd y tu mewn. Maen nhw'n ei droi a’i droi a’i droi. Mae patrwm troellog ar y moch coed hyn. Ac mae p’un a yw’r droellen yn mynd i’r chwith neu i’r dde yn ddibynnol ar p’un a wnaeth y wiwer ei droi o i’r chwith neu i’r dde, ac mae hynny’n ddibynnol ar p’un a yw’r wiwer yn llaw chwith neu’n llaw dde. [00:08:00] Rosie: Mae hyn i gyd yn dystiolaeth sy’n dangos bod y gwiwerod coch yma ac yn iach. [00:08:04] Carol: A dwi bob amser yn hoffi dangos y rheiny i bobl, maent yn rhywbeth y gallant fynd yn ôl i chwilio amdanyn nhw ar ôl y daith, neu’r tro nesaf maen nhw allan yn cerdded mewn coetir, gallant chwilio amdanynt. [00:08:15] Rosie: Ond yn gymharol ddiweddar, bu bron iddyn nhw ddiflannu’n gyfan gwbl. [00:08:19] Carol: Wel, roedden nhw wastad yma, ond roedd eu niferoedd yn dirywio oherwydd bod y gwiwerod llwyd yma hefyd. [00:08:24] Rosie: Erbyn y 1990au, dim ond 40 gwiwer goch oedd ar ôl ar Ynys Môn, roedd yn rhaid i rywbeth newid. Daeth grŵp o bobl leol ynghyd i drio newid pethau, gan weithio ar hyd a lled yr ynys i amddiffyn a chynyddu’r boblogaeth. Symudwyd y gwiwerod llwyd oddi yma ac ailgyflwynwyd y gwiwerod coch i goetiroedd fel hyn. [00:08:46] Carol: Felly, dyma’r daith gerdded hir. Mae gennych y coed pinwydd hardd hyn. Bydd pobl yn dweud yn aml eu bod wedi gweld gwiwerod yn y coed hyn hefyd, ond mae gennym yr olygfa arbennig hon o'n blaenau. Yr hyn rydym yn edrych arno yw’r Fenai o’n blaenau a dwy res o goed pinwydd. Mae'n olygfa fendigedig. Ewch i gael golwg ar y bwydwr yma fan hyn ac yna mi awn ni i lawr at y cwch gwenyn. Felly Coed Banc yr Eglwys yw fan hyn a dyma lle digwyddodd y dasg o'u hailgyflwyno. Dyma lle gwnaethon nhw ailgyflwyno 6 gwiwer goch yn 2008. [00:09:17] Rosie: Ac nid yn y fan hyn yn unig. Mae llond llaw o ailgyflwyniadau tebyg wedi digwydd mewn coetiroedd ar hyd a lled Ynys Môn. A thros amser, dechreuodd y boblogaeth dyfu. Heddiw, mae oddeutu 800 o wiwerod coch ar yr ynys, ond mae eu cadw’n ddiogel yn fater arall. [00:09:42] Carol: Yn 2009, dechreuwyd gweld gwiwerod coch yn y coetiroedd yr ochr arall i’r Fenai. Roeddent wedi croesi o Ynys Môn i’r tir mawr. Fel y dywedais yn gynharach, ychydig fel croesi’r lôn, dydyn ni ddim yn meindio i’n gwiwerod fynd y ffordd hynny, ond dydyn ni ddim am weld y gwiwerod llwyd yn dod y ffordd yma. [00:10:03] Rosie: Nid cystadleuaeth am gynefin yn unig ydy hyn. Gall gwiwerod llwyd gario firws angheuol. [00:10:08] Carol: Y prif risg yw bod y gwiwerod llwyd yn cario afiechyd o’r enw brech y gwiwerod. Yn anffodus, nid oes gan y gwiwerod coch unrhyw imiwnedd naturiol iddi, ac os dônt i gysylltiad â hi, mae’n debyg y byddant yn marw o fewn dwy i dair wythnos. Felly, nid ydym eisiau’r gwiwerod llwyd yn ôl yma. [00:10:23] Rosie: Ond dydy cadw Ynys Môn yn rhydd rhag wiwerod llwyd ddim wedi bod yn hawdd. [00:10:27] Carol: Ers tua 2013, 2014, mae Ynys Môn wedi bod yn eithaf rhydd rhag gwiwerod llwyd. Dwi'n deud 'eithaf' oherwydd dim ond fan 'na ar y tir mawr maen nhw. Maen nhw'n medru croesi, maen nhw yn croesi. [00:10:38] Rosie: Weithiau maen nhw'n croesi o’r tir mawr ar un o’r ddwy bont, neu weithiau maen nhw'n dod o hyd i ffordd arall. [00:10:46] Carol: Felly, gall gwiwerod nofio, felly maen nhw'n nofio’r Fenai, ac mae hyn wastad yn synnu pobl. [00:10:52] Rosie: Mae’n swnio’n annhebygol…. ond mae’n wir. Oherwydd maen nhw wastad ar grwydr yn chwilio am fwyd neu dir newydd. A phob hyn a hyn, gall hyn olygu croesi’r dŵr, hyd yn oed y Fenai. [00:11:04] Carol: Rai blynyddoedd yn ôl, roedd rhywun allan mewn cwch, a llwyddodd i dynnu llun o wiwer lwyd yn nofio ar draws. [00:11:16] Rosie: Maen nhw'n nofio gyda’u pennau uwchben y dŵr, gan ddefnyddio’u pawennau i badlo a’u cynffonau i’w llywio. Felly, mae angen bod yn ddyfeisgar dros ben…er mwyn eu hatal rhag dod yn ôl ar Ynys Môn. [00:11:32] Carol: Felly, maen nhw wedi rhoi cynnig ar ychydig o bethau, ac un o'r rhain oedd eu bod wedi rhoi seinyddion ger y pontydd a chwarae synau uchel, brawychus. [00:11:41] Rosie: Trio dychryn y gwiwerod. [00:11:43] Carol: Ond y cyfan wnaeth y gwiwerod llwyd oedd mynd y tu ôl i’r seinyddion a chnoi’r holl wifrau, felly doedden nhw ddim yn poeni am y synau uchel. Yna, dyma nhw’n meddwl, mi nawn ni gael arogl rheibiwr. O ystyried bod y gwiwerod llwyd yn hanu o ogledd America, arogl pa reibiwr fyddai’n debygol o fod yn ddefnyddiol? Felly, dyma ni'n cael dadl fach am hynny. Roedd gan bobl ychydig o awgrymiadau, wyddoch chi, fel bleiddiaid neu eirth neu beth bynnag. Ond na, aethant ati i gael carthion teigr. [00:12:09] Rosie: Ond weithiodd hynny ddim chwaith. [00:12:12] Carol: Yn amlwg fedrwn ni ddim baricedio’r Fenai i gyd er mwyn cadw’r gwiwerod llwyd draw. Ond yr hyn sydd gennym, ein harf dirgel… yw’r bobl sy’n byw ar Ynys Môn. Maen nhw'n caru eu gwiwerod coch, maen nhw'n frwd iawn dros eu gwiwerod coch. Bydd ganddyn nhw focsys bwydo yn eu gerddi, maen nhw'n dod i adnabod y rhai sy’n dod i ymweld yn rheolaidd, dônt i wybod os oes gandddyn nhw rai bach, maen nhw'n cadw llygad am unrhyw un sy’n edrych yn sâl, ond hefyd maent yn cadw llygad am wiwerod llwyd. Os ydyn nhw'n gweld gwiwer lwyd maen nhw'n adrodd am hyn, rhag ofn mai un o’n gwiwerod coch ni yw hi sydd â chôt lwyd ac i rywun feddwl yn ddamweiniol mai gwiwer lwyd ydy hi, ond nid dyna ydy hi. [00:12:52] Rosie: Drosodd ar y tir mawr yng Nghymru, maen nhw wedi trio rhywbeth gwahanol, dod â rhywogaeth frodorol yn ôl. [00:12:58] Carol: Maen nhw hefyd wedi ailgyflwyno bele’r coed. [00:13:02] Rosie: Ac efallai bod hynny’n gweithio. [00:13:04] Carol: Oherwydd, maen nhw wedi canfod bod y mannau lle maen nhw wedi ailgyflwyno bele’r coed lle mae gwiwerod llwyd a gwiwerod coch, mae nifer y gwiwerod llwyd yn lleihau, a nifer y gwiwerod coch yn cynyddu. Ac eto, maen nhw'n credu mai’r rheswm dros hynny yw bod bele’r coed yn frodorol, mae gwiwerod coch yn frodorol, felly mae gwiwer goch yn arogli bele’r coed ac yn rhedeg i ffwrdd. Ond hyd yn hyn, nid yw gwiwerod llwyd yn adnabod bele’r coed, felly maen nhw'n aros o gwmpas, ac felly ychydig yn haws i’w dal. [00:13:34] Rosie: Ac mae’r holl ymdrech i gadw’r gwiwerod llwyd oddi ar Ynys Môn yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n helpu i adfer rhywogaeth frodorol i dirwedd lle roedden nhw i gyd bron wedi diflannu, sy’n golygu y bydd gan ymwelwyr lawer gwell siawns o gael cipolwg ar y wiwer goch honno sy’n anodd ei dal. [00:13:51] Carol: Felly, yr hyn sy' gynnon ni, rydym mor ffodus. Rydym newydd wirio’r bwydwr, ac mae gynnon ni 2 wiwer yn rhedeg ar ôl ei gilydd o gwmpas coeden. Nid yn aml welwch chi ddwy wiwer gyda’i gilydd. Rydym mor ffodus i weld hyn. Oherwydd fel arfer maen nhw ar ben eu hunain, ond i weld dwy ohonyn nhw'n rhedeg o gwmpas y goeden fel 'na, mae’n bosib mai gwryw a benyw ydyn nhw. Ond mae mor braf eu gweld nhw. [00:14:15] Rosie: Oherwydd mae gweld gwiwerod coch yn ffynnu yn y gwyllt yn rhywbeth go arbennig. [00:14:35] Rosie: Diolch am wrando ar y bennod hon o Wild Tales. Os ydych wedi mwynhau, beth am ein dilyn ni neu roi adolygiad? Ac os hoffech chi ddysgu mwy am y gwiwerod coch a’u hailgyflwyniad ar Ynys Môn, yna ewch i nodiadau pennod y sioe. Mae gennym hefyd bennod Wild Tales ar ailgyflwyno bele’r coed os oes gennych awydd gwrando. Welwn ni chi y tro nesaf.
We recommend upgrading to the latest Chrome, Firefox, Safari, or Edge.
Please check your internet connection and refresh the page. You might also try disabling any ad blockers.
You can visit our support center if you're having problems.