Morlo:
A! Braf ydy Bae Ceredigion. Does dim byd gwell ‘na bywyd gwyllt rhyfeddol Cymru. Dwi wrth fy modd yn nofio yma wedi fy amgylchynu gan ddolffiniaid, cimychiaid, morfeirch, slefrod môr, a hyd yn oed siarc neu ddau. Dwi’n teimlo fy mod wedi anghofio am rywun. O ia! Anghofiais am fi fy hun, y morlo.
Mae yna daith gwch arall wedi cyrraedd. Dwi’n hoffi gweld bodau dynol yn mwynhau eu hunain. Beth yw’r sŵn yna?
Dydi’r plentyn bach yna ddim yn swnio’n hapus iawn? Tybed beth sydd wedi digwydd? Dwi am nofio ychydig yn agosach i weld a alla i glywed rhywbeth.
Max:
Roeddwn i’n helpu fy mrawd gyda’i ddyfais ddiweddaraf pan ollyngais fy mathodyn Criw Gwyllt er anrhydedd yn y môr. Gweithiais mor galed i gael y bathodyn.
Morlo:
O na! Ti wedi colli dy fathodyn Criw Gwyllt. Byddwn i’n torri fy nghalon petawn i wedi colli un o’r rheiny. Paid â phoeni, dwi’n gwybod yn union pwy all achub y dydd. Awoo.
Arwyddgan:
Ar draws lleoedd gwyllt rhyfeddol niferus y Deyrnas Unedig, o goedwigoedd, gwlypdiroedd, i fynyddoedd a gweundiroedd, mae un Ceidwad a’i ffrindiau bob amser ar gael, pryd bynnag y mae angen cymorth ar rywun.
Cantorion:
Ceidwad Rae a’r Criw Gwyllt.
Ceidwad Rae:
Gallaf siarad ag anifeiliaid. Mae’n freuddwyd i geidwad.
Cantorion:
Ceidwad Rae a’r Criw Gwyllt.
Ceidwad Rae:
Dywedwch helo wrth fy nhîm o anifeiliaid.
Cantorion:
Dyma Carw, Llwynog a Cath Wyllt. Twrch Daear, Gwas y Neidr, Afanc ac Ystlum.
Afanc:
Seiniwch rybudd, a byddwn yno i helpu’n syth.
Carw:
Gyda’n pwerau anifeiliaid arbennig byddwn ni’n gwybod beth i’w wneud.
Cantorion:
Ceidwad Rae a’r Criw Gwyllt.
Morlo:
Mae’n siŵr y bydd yn cymryd dipyn o amser iddyn nhw gyrraedd yma. Efallai bydd gen i ddigon o amser i gael cyntun neis ar fy hoff graig.
Ceidwad Rae:
Wnaeth rhywun alw am Geidwad Rae? Dwi yma i achub y dydd...
Roxie:
Gydag Afanc, Carw a Roxie.
Ceidwad Rae:
...i achub y dydd.
Morlo:
Wow! Wnaethoch chi gyrraedd yma mewn dim o amser.
Afanc:
Wel, dyna sy’n digwydd pan ydych yn gofyn am help gennyf i - Afanc Anhygoel.
Carw:
Ahem. Dwi’n meddwl mai fi wnaeth y gwaith caled i gyd. Mae’n braf gen i gwrdd â thi, Morlo. Carw ydw i.
Roxie:
Nawr ein bod ni wedi cyflwyno ein hunain-
Morlo:
O! Roxie wyt ti, y ceidwad newydd? Dwi wedi clywed llawer amdanat ti. A yw’n wir dy fod ti’n gallu deall anifeiliaid hefyd?
Roxie:
Nac ydy, mae gen i ofn. Ni allaf ddeall gair o’r hyn rwyt ti’n ei ddweud.
Morlo:
O, dyna drueni.
Roxie:
Ie. Ie, trueni mawr.
Morlo:
Hei, aros am eiliad. Os nad wyt ti’n gallu deall anifeiliaid, sut wnes ti fy neall i’n gofyn a wyt ti’n gallu deall anifeiliaid?
Roxie:
Mae’r jôc honno’n gweithio bob tro.
Afanc:
Hei, Morlo. Mi wyt ti wedi clywed amdanom ni felly, do?
Morlo:
Do wir.
Afanc:
Ac mi wyt ti’n hoffi’r gwaith rydym yn ei wneud?
Morlo:
Hoffi? Dwi wrth fy modd â’ch gwaith chi. Chi yw’r Criw Gwyllt. Mae pawb wrth eu bodd â’ch gwaith chi.
Ceidwad Rae:Iawn, Morlo, sut allwn ni helpu?
Morlo:
Mae bachgen ifanc ar un o'r cychod wedi gollwng ei fathodyn criw gwyllt er anrhydedd yn y môr.
Roxie:
Oh, na. Bechod. Mae siŵr ei fod wedi cynhyrfu’n lân. Roedd y bathodyn yna’n golygu popeth i mi pan oni’n aelod er anrhydedd o’r Criw Gwyllt.
Carw:
Lle’n union wnaeth e ei ollwng?
Morlo:
Wel, dyna’r broblem. Wnaeth neb weld yn lle wnaeth e ei ollwng, felly fe allai fod yn unrhyw le.
Ceidwad Rae:
Bydd rhaid i ni holi o gwmpas. Morlo, wyt ti’n gwybod am anifeiliaid lleol a allai ein helpu?
Morlo:
Efallai y gallai Cimwch ddweud wrthym ymhle y disgynnodd y bathodyn i’r môr. Ond, mae problem fach.
Afanc:
Beth yw’r broblem?
Morlo:
Nid oes gan gimychiaid linynnau lleisiol, felly bydd yn anodd iddo siarad â ni.
Ceidwad Rae:
Mae honno’n dipyn o broblem.
Morlo:
Ond, mae cimychiaid yn gallu defnyddio eu crafangau i siarad iaith arwyddion.
Roxie:
Dwi’n gallu deall iaith arwyddion.
Morlo:
Pam wnest ti ddim dweud? Dewch, awn ni i weld Cimwch.
Afanc:
Psst. Roxie, beth mae Cimwch yn ei ddweud?
Roxie:
Mae Cimwch yn dweud ei fod wedi mynd allan am dro bore yma ar hyd gwely’r môr pan, yn sydyn, y cafodd ei goes ei dal o dan graig.
Afanc:
O na.
Morlo:
Paid â phoeni. Mae’n digwydd o hyd.
Roxie:
Tra’r oedd Cimwch yn ceisio cael ei hun yn rhydd, gwelodd rhywbeth llachar yn glanio ar y tywod ychydig fetrau i ffwrdd.
Ceidwad Rae:
Rhaid mai’r bathodyn Criw Gwyllt oedd o.
Roxie:
Wel, doedd Cimwch ddim yn gwybod beth oedd o ar y pryd, ond mae’n eithaf siŵr mai’r bathodyn oedd o.
Afanc:
Sut lwyddodd Cimwch i ryddhau ei hun?
Roxie:
Wel ar ôl ymdrechu am ychydig, penderfynodd ddatgysylltu ei goes ac yna nofio i’r wyneb.
Afanc:
Datgysylltu ei goes? O, mam bach.
Morlo:
Peidiwch â phoeni. Mae’n digwydd o hyd.
Ceidwad Rae:
Wyt ti wir yn dweud bod cimychiaid yn datgysylltu eu coesau eu hunain o hyd?
Morlo:
Na, wrth gwrs ddim. Maen nhw hefyd yn gallu datgysylltu eu crafangau a’u cynffonau hefyd.
Afanc:
Ond, beth sy’n digwydd wedyn?
Roxie:
Wel, mae Cimwch yn dweud ar ôl iddyn nhw ddatgysylltu coes, crafanc neu aelod arall, maen nhw’n tyfu’n ôl.
Afanc:
Tyfu eu coesau yn ôl?
Ceidwad Rae:
Tyfu eu coesau yn ôl?
Morlo:
Peidiwch â phoeni. Mae’n digwydd o hyd.
Afanc:
Mae hynny fel archbŵer. Dylai unrhyw anifail sy’n gallu tyfu rhan o’r corff yn ôl fel yna fod yn arweinydd y Criw Gwyllt yn bendant.
Carw:
Yn amlwg nid wyt ti wedi sylwi ar fy nghyrn yn tyfu’n ôl yn rheolaidd.
Afanc:
O, ia. Dim ots am yr holl siarad am ‘dylai unrhyw anifail sy’n gallu tyfu rhan o’r corff yn ôl fel yna fod yn arweinydd y Criw Gwyllt’, Carw. Jocian oni.
Carw:
Oh ia. Dwi’n siŵr dy fod di.
Ceidwad Rae:
Dewch rŵan bawb. Dewch i weld a allwn ni ddod o hyd i’r bathodyn yma.
Carw:
Ond, sut? Fyddai ddim yn gallu eich cario chi i gyd o dan y dŵr, na fyddaf?
Roxie:
Pwynt da, Carw.
Morlo:
Aros funud. Mae pobl yn mynd ar gefn ceffylau yn tydyn?
Roxie:
Ydyn.
Morlo:
Dyna oni’n feddwl. Dwi’n gwybod am rywun a allai helpu.
Morfarch:
Dwi’n falch o dy weld di Morlo, ond mae’n ddrwg gen i ond nid y math yna o farch ydw i. Morfarch ydw i ti’n gweld?
Morlo:
Dwi’n gweld. Felly beth yw’r gwahaniaeth rhwng morfarch a cheffyl cyffredin?
Morfarch:
Wel, gadewch i ni weld. Mae ceffyl cyffredin sy’n byw ar y tir tua chwe throedfedd o daldra, tra mod i’n 25cm o daldra.
Morlo:
Wrth gwrs.
Morfarch:
Ac mae’r ffaith bod ceffyl cyffredin yn byw ar y tri a ni morfeirch yn byw yn y môr.
Morlo:
Digon teg. Dim ond syniad.
Morfarch:
Diolch am feddwl amdanaf.
Ceidwad Rae:
Pwy arall ydym ni’n ei adnabod a allai nofio? Byddai angen sgiliau nofio penigamp arnynt.
Afanc:
Wel, am bwy allech chi fod yn siarad?
Roxie:
A byddai angen iddynt allu dal eu hanadl am amser hir iawn.
Afanc:
Ydy 15 munud yn ddigon hir i chdi?
Ceidwad Rae:
Ac yn olaf...
Afanc:
Dwi’n meddwl ein bod ni i gyd yn gwybod eich bod angen cymorth Super B-
Ceidwad Rae:
A byddai angen iddo gael golwg gwych i ddod o hyd i’r bathodyn.
Afanc:
Ah. Wel, fedrai ddim helpu hefo hynny. Does gan afancod ddim y golwg gorau.
Luca:
Esgusodwch fi. Ai chi ydy Ceidwad Rae a Ceidwad Roxie?
Roxie:
Dyna ni.
Ceidwad Rae:
Sut allwn ni helpu?
Luca:
Luca ydw i a dyma Max fy mrawd bach. Gollyngodd Max ei fathodyn Criw Gwyllt er anrhydedd yn y môr yn gynharach pan oedd o’n fy helpu gyda fy nyfais ddiweddaraf. Roedden ni’n gobeithio y gallech ein helpu i ddod o hyd iddo.
Afanc:
W. Pa fath o bethau wyt ti’n eu dyfeisio? Unrhyw beth a allai ein helpu ni?
Luca:
Wel, gad i mi feddwl. Mae gen i ddyfais sy’n gallu dweud pa fath o hwyliau sydd ar rywun. Gadewch i ni ei drio ar Afanc.
Afanc:
Wel, mae siŵr mod i ychydig yn flin am y peth hefo’r golwg.
Luca:
Dyma sganiwr sy’n gallu dweud wrthych ai march cyffredin neu forfarch ydy creadur.
Sganiwr:
Sganio, sganio. Sganio. Morfarch wedi’i ganfod.
Ceidwad Rae:
Waw, mae'n gweithio.
Luca:
Aha. Am y rhain oeddwn i’n chwilio amdanynt. Gall y gogls tanddwr hyn helpu i wella golwg unrhyw un sy’n eu gwisgo nhw.
Afanc:
Gyda gogls fel hyn mi fyddai’n gallu gwneud unrhyw beth. Hei, edrychwch ar fy hwyliau i rŵan.
Roxie:
Waw. Chdi wnaeth ddyfeisio’r rhain dy hun?
Luca:
Ie. Rwyf wrth fy modd yn tynnu teclynnau a pheiriannau yn ddarnau ac yna eu rhoi nhw’n ôl at ei gilydd. Dyma’r ffordd orau i ddysgu sut i ddyfeisio pethau.
Ceidwad Rae:
Wel, efallai fyddi di’n ffrind da i gael o gwmpas i’n helpu ni ar ein hanturiaethau. Beth wyt ti’n ei ddweud, Afanc? Wyt ti’n barod i... Afanc? Afanc? I ble mae e wedi mynd?
Roxie:
Mae’n swnio fel ei fod eisoes wedi mynd i achub y dydd.
Afanc:
Whoa-oh. Edrychwch arna i. Fi yw Afanc Anhygoel ac mae gen i olwg gwych. Mae Luca yn ddyfeisiwr campus. Reit - ble mae’r bathodyn yna?. Mae’n braf iawn i lawr yma. Lle hyfryd, diogel a golygfa braf. Oh na. Beth sy’n nofio tuag ataf? Wnaeth morlo ddim sôn yn gynharach bod yna siarcod yn yr ardal hon? Oh, na, oh, mae’n nofio’n syth tuag ataf.
Heulforgi:
Helo, Afanc. Sut wyt ti?
Afanc:
A! Heulforgi. Mae’n braf iawn dy weld di. Dwi’n grêt, diolch. Dwi’n trio chwilio am fathodyn a gollodd plentyn bach yn gynharach.
Heulforgi:
Pa fath o gogls wyt ti’n eu gwisgo?
Afanc:
Dyfeisiwr o’r enw Luca wnaeth eu dyfeisio nhw. Maen nhw’n fy helpu i weld yn well o dan y dŵr.
Heulforgi:
W. Wel, pob lwc i chdi gyda’r chwilio. Baswn i wrth fy modd yn helpu, ond dwi’n rhy brysur yn bwyta’r planton bendigedig ‘ma.
Afanc:
Mwynha. Iawn, dwi am droi’r pŵer i fyny ar y gogls yma i weld a alla i weld y bathodyn. Aha. Dwi’n meddwl y galla i weld rhywbeth llachar draw acw. Gad i mi weld. Gad i mi weld. Gad i mi weld. Y bathodyn ydy o. Mae Afanc Anhygoel wedi achub y dydd unwaith eto. Reit y cwbl sydd angen i mi ei wneud yw ei bigo i fyny a-
Sbwng Môr:
Hei! Fy mathodyn i yw hwnna. Saf draw.
Afanc:
Pwy wyt ti? Beth wyt ti?
Sbwng Môr:
Dwyt ti erioed wedi gweld sbwng môr o’r blaen?
Afanc:
Naddo.
Sbwng Môr:
Wel, mi wyt ti nawr.
Afanc:
Felly rhyw fath o sbwng wyt ti, sy’n byw yn y môr?
Sbwng Môr:
Rhyw fath o sbwng? Gwranda mêt, gad llonydd i fi a fy mathodyn.
Afanc:
Ond, dwyt ti ddim yn deall. Bachgen ar y tir sydd biau’r bathodyn ac mae e’n drist iawn.
Sbwng Môr:
Fy mathodyn i ydy o. Fe laniodd ar fy mhen fel gweddill fy nhrysorau.
Afanc:
Trysorau?
Sbwng Môr:
Mae pob math o drysorau’n glanio wrth fy ymyl, fel y peth yma. Dwi’n meddwl mai teyrnwialen ydy hi oedd yn eiddo i frenin Atlantis, y ddinas goll.
Afanc:
Llwy ydy honna.
Sbwng Môr:
Gad lonydd i fy nhrysorau. Dwi ddim yn mynd i roi’r bathodyn Criw Gwyllt er anrhydedd hwn i neb.
Afanc:
Beth petawn i’n gallu cael bathodyn Criw Gwyllt llawn i chdi?
Sbwng Môr:
Sut?
Afanc:
Gan mai Afanc Anhygoel ydw i, aelod o’r Criw Gwyllt.
Sbwng Môr:
Go iawn? Dylwn i fod wedi gwybod pan welais i chdi'n nofio mor gyflym.
Afanc:
O’r mawredd. Diolch.
Sbwng Môr:
Gei di’r bathodyn felly.
Afanc:
Diolch yn fawr iawn. Mi wyt ti wedi gwneud bachgen bach yn hapus iawn.
Sbwng Môr:
Ond dwi eisiau’r bathodyn Criw Gwyllt llawn. Dwi’n aelod o’r tîm nawr, yn dydw i?
Afanc:
Wyt, mi wyt ti.
Sbwng Môr:
Grêt. Sbwng Môr, aelod o’r Criw Gwyllt yma i helpu unrhyw un sydd... Wel, a dweud y gwir efallai y bydd yn anodd i fi helpu unrhyw un, gan fy mod i methu symud.
Afanc:
Oh, ie. Wel, bydd rhaid i ni feddwl am hynny eto. Mae’n rhaid i mi ddychwelyd y bathodyn hwn i’w berchennog. Ffwrdd â ni Afanc Anhygoel.
Luca:
Ac yna wnes i ddyfeisio’r morthwyl hwn sy’n chwistrellu ychydig bach o bersawr bob tro y byddwch yn curo hoelen.
Ceidwad Rae:
Wow, mae hynny’n rhyfeddol.
Roxie:
Paid â phoeni. Mi fyddwn ni’n siŵr o ddychwelyd y bathodyn i chdi yn fuan.
Afanc:
Mae Afanc Anhygoel yn ei ôl gyda’r bathodyn.
Roxie:
Da iawn, Afanc.
Max:
Fy mathodyn.
Ceidwad Rae:
Gwych Afanc, da iawn.
Luca:
A wnaeth fy nyfais helpu?
Afanc:
Do wir. Fyddwn i ddim wedi gallu ei wneud heb dy help di. Wel, efallai byddwn i wedi gallu, ond mi fyddai wedi bod yn anodd.
Ceidwad Rae:
Diolch yn fawr iawn am dy help, Luca. Dwi’n siŵr y byddwn yn dy weld ti eto'n fuan. Dwyt ti byth yn gwybod pryd y byddwn ni angen dyfais newydd.
Luca:
Diolch am ddod o hyd i fathodyn fy mrawd bach. Bydd e’n gallu mwynhau gweddill y trip nawr.
Ceidwad Rae:
Iawn, well i ni fynd?
Morlo:
Oh! Oes rhaid i chi adael?
Ceidwad Rae:
Dwi’n meddwl fod yn well i ni, oni bai bod unrhyw beth arall.
Morlo:
Roedd hi’n braf iawn cwrdd â chi gyd. Fedrai ddim aros i ddweud wrth bawb fy mod i wedi gweld y Criw Gwyllt wrth eu gwaith.
Afanc:
Oh, mae hynny’n fy atgoffa. Mi wnes i addo bathodyn Criw Gwyllt i rywun.
Ceidwad Rae:
Bathodyn Criw Gwyllt er anrhydedd ti’n ei feddwl?
Afanc:
Na. Doedd hynny ddim yn ddigon da. Bydd angen bathodyn llawn.
Roxie:
I bwy mae o?
Afanc:
Sbwng.
Roxie:
Sbwng?
Ceidwad Rae:
Sbwng?
Afanc:
Gwnaeth sbwng môr wir fy helpu pan oni lawr yn y dyfnderoedd, felly dywedais y gallai ymuno â’r tîm. Dydi o ddim yn gallu symud o gwbl, felly bydd rhaid i ni fynd i’w weld bob hyn a hyn i roi gwybod iddo am ein hanturiaethau.
Ceidwad Rae:
Iawn, Afanc. Ond y tro nesaf, rhaid i ni geisio datrys ein problemau heb rannu mwy o fathodynnau Criw Gwyllt newydd. Rhywun ffansi mynd i nofio cyn i ni adael?
Roxie:
Oh na. Beth ydy hwnna?
Carw:
Mae’n nofio’n syth atom.
Afanc:
A ninnau’n meddwl ei bod yn ddiogel i fynd yn ôl i’r dŵr.
Heulforgi:
Helo, bawb.
Ceidwad Rae:
Heulforgi ydy o.
Heulforgi:
Ie. Fi ydy o.
Ceidwad Rae:
Hwrê.
Roxie:
Hwrê.
Galwad o bell:
Awoo.
Ceidwad Rae:
Mae’n swnio fel bod anifail arall angen ein cymorth ni.
Roxie:
Dewch Griw Gwyllt. Mae’n amser i ni fynd.
Cantorion:
Ceidwad Rae a’r Criw Gwyllt.
We recommend upgrading to the latest Chrome, Firefox, Safari, or Edge.
Please check your internet connection and refresh the page. You might also try disabling any ad blockers.
You can visit our support center if you're having problems.