Ar Goll yn y Môr

Oct 22, 03:45 AM

Subscribe
Argyfwng! Argyfwng! Mae morlo ym Mae Ceredigion yn seinio rhybudd ar ôl i fachgen bach golli ei fathodyn Criw Gwyllt yn y môr. Mae’r bachgen yn daer eisiau ei fathodyn yn ôl.  
  
Mae Ceidwad Rae, Roxy, Afanc a Carw yn ceisio helpu, ond nid oes gan yr un ohonynt y sgiliau iawn ar gyfer y dasg dan y dŵr.  
  
Yn ffodus mae rhywun yn y bae a fydd yn gallu helpu. Mae Luca yn ddyfeisiwr penigamp. A oes ganddo’r union beth i helpu’r Criw Gwyllt ymhlith ei ddyfeisiadau?  
  
Mae’r criw yn cael cymorth gan yr anifeiliaid lleol a’u hen ffrind Heulforgi. Ond a fydd Afanc yn llwyddo i achub y dydd trwy gael y gorau ar y Sbwng Môr ystyfnig?  

Dilynwch y ddolen hon i gael trawsgrifiad Saesneg o’r bennod hon:  
https://audioboom.com/posts/8789113-lost-and-found-at-sea  

Gallwch wrando ar y gyfres lawn o anturiaethau Ceidwad Rae a’r Criw Gwyllt yma:  
podfollow.com/national-trust-kids-podcast  

Neu chwiliwch am “Ranger Rae and the Wildlifers” ar eich ap podlediad neu Yoto  

Syniadau ac adnoddau ar gyfer oedolion  
 
I ddarganfod mwy am fywyd gwyllt a lleoedd arfordirol rhyfeddol Ceredigion ewch i: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/coast-beaches  

Ymweld â gwefan Podlediadau i Blant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
nationaltrust.org.uk/kids-podcast

Gweld beth arall sydd gan Fun Kids Radio i’w gynnig
www.funkidslive.com/

Cael eich ysbrydoli gan ‘50 peth i'w gwneud cyn eich bod yn 11¾’
www.nationaltrust.org.uk/visit/50-things

Dysgu rhagor am fywyd gwyllt y DU
www.nationaltrust.org.uk/discover/nature/wildlife 

Cynhyrchu 

Mae Ceidwad Rae a’r Criw Gwyllt (Ranger Rae and the Wildlifers) yn bodlediad gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi’i gynhyrchu gan Fun Kids Radio. 
 
Gwaith Celf: (c) Becka Moor 

Cast: 
Ceidwad Rae: Katy Schutte 
Roxy: Leila Hall 
Carw / Cath Wyllt: Hannah Platts 
Afanc / Ystlum: Lloydie James Lloyd 
Luca: Stephen Lee 
Eddie Alldaith: Adam Hodgson 
Mae’r holl gymeriadau eraill yn cael eu chwarae gan aelodau o’r ensemble. 

Awdur: Aidan Fitzmaurice 

Dylunydd Sain: Chris Stevens 
Golygu: Adam Wagner 
Cynhyrchwyr: Lloydie James Lloyd ac Adam Stoner