August 2018: IWA Eisteddfod lecture: Wales' Media Future: How can we ensure the sustainability of indigenous content production in Wales?

Aug 07, 2018, 03:20 PM

Monday 6th August, Senedd, Cardiff

There’s been much to celebrate in Welsh media in recent years: from the success of prominent dramas such as Dr Who and Keeping Faith / Yr Bore Mercher, to new production studios, increased viewing figures and a rise in online and community journalism.

There have also been a number of challenges, not least the effects of global trends in consumption and viewing habits on traditional forms of media.

This discussion considered how sustainable indigenous content production is here in Wales. How can we ensure content continues to be produced and its benefits felt in Wales?

What does this mean for the workforce of today and the future? Can content production in Wales survive in a global media landscape without compromising delivery to audiences at home?

This event was chaired by Elis Owen, Freelance Producer and Chairman of It's My Shout training scheme. He was joined by:

Emma Meese, Media & Training Development Manager, JOMEC, Cardiff University

Ifan Morgan Jones, Lecturer in Journalism, Bangor University

Sian Gale, Training Manager / Creative Unions, BECTU

Darlith yr Eisteddfod Sefydliad Materion Cymreig 2018:

Dyfodol Cyfryngau Cymru: Sut gallwn ni ddiogelu cynaliadwyedd y gwaith o gynhyrchu cynnwys brodorol yng Nghymru?

Bu cryn dipyn i’w ddathlu ym myd y cyfryngau yng Nghymru yn ddiweddar: o lwyddiant dramâu blaenllaw fel Dr Who ac Un Bore Mercher/Keeping Faith, i stiwdios cynhyrchu newydd, cynnydd yn nifer y gwylwyr ynghyd â chynnydd mewn newyddiaduraeth ar-lein a newyddiaduraeth gymunedol.

Gwelwyd hefyd nifer o heriau, yn enwedig effeithiau tueddiadau byd-eang mewn arferion defnyddio a gwylio pobl ar ein cyfryngau traddodiadol.

Bydd y drafodaeth yma’n ystyried pa mor gynaliadwy yw’r gwaith o gynhyrchu cynnwys brodorol yng Nghymru? Sut gallwn ni sicrhau y bydd cynnwys yn parhau i gael ei gynhyrchu yng Nghymru a sut gallwn ni sicrhau budd hyn oll i Gymru?

Beth mae hyn yn ei olygu i’n gweithlu ni heddiw ac i weithlu’r dyfodol? A oes modd i waith cynhyrchu cynnwys yng Nghymru oroesi mewn tirlun o gyfryngau byd-eang heb gyfaddawdu profiad ei gynulleidfaoedd gartref?

Cadeirydd y digwyddiad fydd Elis Owen, Cynhyrchydd Llawrydd a Chadeiryddcynllun hyfforddi It's My Shout, yng nghwmni:

Emma Meese, Rheolwr y Cyfryngau a Datblygu Hyfforddiant, JOMEC, Prifysgol Caerdydd

Ifan Morgan Jones, Darlithydd Newyddiaduraeth, Prifysgol Bangor

Siân Gale, Rheolwr Hyfforddiant / Creative Unions, BECTU