Migl di Magldi

Nov 17, 09:14 AM

Subscribe
Mae Siôn Fychan y Clocsiwr yn llenwi’r cwm yn llawn lliw a llawenydd! Mae’n llwyddo i godi’r calonnau trymaf gyda phob tap o bob dawns a phob curiad o bob cân. Roedd yn cael croeso gwyllt ym mhob Noson Lawen yn Nhŷ Mawr - er nad oedd yr un brwdfrydedd iddo yng ngwasanaethau’r Sul ‘chwaith, ac am hynny, fei gafodd ei wahardd o’r capel. Mae’n ein hatgoffa bod lle i lawenydd ym mhobman, hyd yn oed yn y llefydd mwyaf lleddf.  

Actor: Tudur Phillips