Blas o gyfarfod yr Annibynwyr yng Nghaerfyrddin - Heddwch Rhyw Ddydd

Sep 15, 2016, 11:33 AM

Diolch i Alun Lenny am recodio pwt o'r noson hon yng Nghaerfyrddin ar 8 Medi 2016.

Cyfarfod Hybu Heddwch Cafodd cynllun Llywodraeth Prydain i wario £50 miliwn dros bum mlynedd ar greu mwy o unedau cadéts milwrol mewn ysgolion ei feirniadu’n llym yn y cyfarfod hwn i hybu heddwch yng Nghaerfyrddin. Pasiwyd cynnig mewn cyfarfod a drefnwyd gan Gyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin yn galw am wario’r arian ar godi ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r angen i hyrwyddo heddwch. Derbyniwyd y cynnig – a gyflwynwyd gan y Parchg Guto Prys ap Gwynfor - yn unfrydol gan y 150 o bobol o bob enwad oedd yn bresennol yng nghapel hanesyddol Heol Awst. Yno hefyd roedd Dafydd Iwan ac Aneirin Karadog, a fu’n darllen y dilyniant o gerddi a enillodd cadair Prifwyl y Fenni iddo. Ond mae’r blas o’r noson yn dechrau gydag un o emynau’r diweddar Barchg T. Elfyn Jones, sy’n weddi am heddwch yn y byd. Yna, daw’r cynnig gan Guto a chân gan Dafydd Iwan.