Blwyddyn gyffrous o'm blaenau meddai @JillEvansMEP
Fel Aelod o’r Senedd Ewropeaidd a Llywydd Plaid Cymru, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen i chi gyd, a blwyddyn newydd heddychlon a llewyrchus.
Mae blwyddyn gyffrous yn ein haros ym Mhlaid Cymru, gydag arolwg o’r blaid yn cyd-fynd ag gornest arweinyddiaeth ac Etholiadau Cyngor hynod gyffrous ym Mis Mai.
Rydym mewn cyfnod Economaidd hynod o anodd, felly ar flaen yr agenda i mi yn Senedd Ewropeaidd fydd creu swyddi, achub gwasanaethau hollbwysig, a chryfhau Economi Cymru.
Diolch am eich cefnogaeth ffyddlon i Blaid Cymru, ac rwy’n edrych ‘mlaen i weithio hefo chi dros Gymru yn 2012.
Jill Evans ASE
Llywydd Plaid Cymru