Taith Chwedlau a Rhaeadrau Cymru

Jun 16, 09:17 AM

Subscribe
Ymunwch â thaith gerdded at lyn ym Mannau Brycheiniog i glywed sut wnaeth y Ceidwad, Emma Kolano-Rogers, wneud y penderfyniad dewr i gamu i ffwrdd o yrfa yr oedd wedi hyfforddi yn y brifysgol ar ei chyfer ond a oedd yn achosi gorbyder iddi.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae hi at ei phengliniau mewn mwd, yn syrthio i mewn i gorsydd ac yn ac mae hi’n hapusach nag erioed. 

Mae hi’n mynd â’r cyflwynydd, Claire Hickinbotham, i ganfod ‘Morwyn Llyn y Fan’ ac yn rhannu ychydig o straeon llên gwerin Cymru ar y daith fer ond serth.

 Cynhyrchydd/Cyflwynydd: Claire Hickinbotham
 Golygydd/Dylunio Sŵn: Nikki Ruck

Awgrymiadau ar gyfer eich Dos o Fyd Natur

Bu i Claire gwrdd ag Emma ym Maes Parcio Llyn y Fan Fach - Google Maps ac roedd y daith gerdded yn dilyn llwybr i fyny at y llyn.
 Mae un lle cyfyng heibio giât â chlo sy’n gwneud y daith gerdded hon yn anaddas i gadeiriau olwyn a bygis. 

Ac os ydych yn dymuno cael blas ar beth mae Emma yn ei brofi, cymerwch olwg ar hwn, Cerdded ym myd natur ar gyfer llesiant | Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu Swyddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol :: Cefn gwlad
 
Os hoffech gysylltu â ni gydag adborth, neu os oes gennych stori, gallwch gysylltu â ni ar podcasts@nationaltrust.org.uk