Pennod 1: Oes gen ti'r hyn sydd ei angen i gychwyn dy fusnes dy hun?

Episode 1,   Oct 23, 2019, 10:11 AM

Sgwn i faint ohonoch chi sgin syniad da, neu faint ohonoch chi sydd isio cychwyn busnes eich hun ond sy’n pendroni ‘ydi hyn yn rwbath fedrai neud go iawn?’. Dim chdi di’r unig un. Mae na lot o bobl ifanc yn breuddwydio am fod yn fos arnyn nhw ei hunain ac sydd hyd yn oed wedi mynd mor bell a phenderfynu sut fusnes y basa nhw’n licio ei redeg... coeliwch neu beidio, i sawl un ohonyn nhw mae’r freuddwyd yma bron a dod yn wir.