Pennod 5: Creu brand

Episode 5,   Oct 23, 2019, 10:11 AM

Da ni gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi creu argraff gyntaf dda, a tydi hyn ddim gwahanol ym myd busnes. Mae angen hunaniaeth brand ar bob busnes, dio’m ots pa mor fach ydio. Mae angen i chi sefyll allan!

Ella nad wyt ti’n hollol siŵr be yn union ydi brand. Wel, mae’n fwy na jest enw a logo. Dy frand di fydd personoliaeth a chymeriad dy fusnes di a dyma fydd pobol yn sbio arno fo cyn penderfynu sut gwmni wyt ti. Os na nei di weithio ar dy frand, dim chdi fydd wrth y llyw o ran creu delwedd ag enw da i’r busnes.