Pennod 11: Gwybod faint i'w godi

Episode 11,   Oct 23, 2019, 10:11 AM

Ond rŵan, mae’n bryd i ni gychwyn siarad am brisio, a faint ddylsa chdi godi ar gwsmeriaid.
Mae’n rhaid i’r hyn fyddi di’n godi am wasanaeth neu gynnyrch fod yn ddigon, er mwyn creu elw rhesymol, ac yn ddigon i gyfro unrhyw gostau - paid ag anghofio , mae’r amser ti’n weithio angen cael ei ystyried pan ti’n gweithio dy gostau allan hefyd.